Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Rhieni Powys yn groch o blaid addysg uwchradd penodedig cyfrwng Cymraeg
(27-06-2011)

Mae arolygon diweddar a gynhaliwyd gan Fudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys (MAGGDdP) a changhennau Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) De Powys wedi arddangos undod barn ymhlith cannoedd o rieni’r Sir sydd am sicrhau addysg gyflawn cyfrwng Cymraeg i’w plant.

Mewn dwy arolwg annibynnol a gynhaliwyd yn ystod mis Mai cafwyd casgliadau trawiadol sy’n amlygu methiant sylfaenol y polisi presennol o gynnig addysg uwchradd mewn ffrydiau Cymraeg a Saesneg cyfochrog. Diffygion y mae Cyngor Sir Powys wedi’i cydnabod eu hunain mewn dogfen ymgynghorol diweddar ar foderneiddio ysgolion uwchradd y Sir.

Dangosodd yr arolygon fod mwyafrif arolwg y gogledd ddwyrain, sef 55.7% eisiau ysgol uwchradd benodedig Cymraeg yng Ngogledd Ddwyrain Powys. O’r gweddill, roedd 21.5% eisiau mwy o wybodaeth ac yn barod i ystyried ysgol benodedig. Dim ond 22.8% oedd am gadw’r polisi presennol o ddwy ffrwd gyfochrog.

Yn ne’r Sir roedd 81% o blaid gweld sefydlu ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg, 13% yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth a 6% yn unig yn erbyn.

Un nodwedd arwyddocaol yw cefnogaeth y di-Gymraeg dros sefydlu ysgolion uwchradd Cymraeg, sy’n cynrychioli dros 60% o ymatebion y ddwy arolwg. Dengys fod yr ewyllys da hwn tuag at y Gymraeg yn gyson gyda phatrymau cyffelyb ledled Cymru.

Dywedodd Rhisiart Owen ar ran MAGGDdP: “Yn y lle cyntaf hoffem ddiolch i deuluoedd Powys am gyfranogi yn yr arolygon diweddar. Prif amcan dosbarthu’r holiadur oedd cynnig rhyddid mynegiant i rieni a hynny mewn modd cwbl gyfrinachol. Credwn fod yr ymarfer wedi bod yn un gwerthfawr ac o ystyried niferoedd a natur yr ymatebion mae’n amlwg fod rhieni wedi gwerthfawrogi’r cyfle.”

“Mae’r canfyddiadau’n dangos yn glir ac yn ddi-amwys fod rhieni o blaid gweld sefydlu ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg ym Mhowys. Mae hyder a ffydd ganddynt y byddai ysgolion o’r fath nid yn unig yn llwyddo, ond yn ffynnu i’r dyfodol. Yn hynny o beth, adlewyrchu dyheadau rhieni lleol Powys mae canfyddiadau’r arolygon dan sylw.”

Amlygwyd trwy’r ymatebion fod rhieni yn awyddus i’r awdurdod ddefnyddio’r adolygiad moderneiddio fel cyfle i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddarpariaeth addysg Gymraeg ym Mhowys. Cyfeirwyd hefyd at ddeuoliaeth ryfedd y sefyllfa bresennol ble mae’n bosib derbyn addysg gynradd yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond nad oes dilyniant ieithyddol i ddarpariaeth gyfatebol yn yr uwchradd. Er mwyn sicrhau hynny rhaid teithio i siroedd cyfagos - penderfyniad anodd y mae nifer cynyddol o rieni wedi gorfod ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd Lynne Griffin, Cadeirydd RhAG Aberhonddu a Phontsenni:
“Mae polisi presennol Powys yn anfanteisio cyfran sylweddol o’u dysgwyr a hynny’n groes i’r mwyafrif o siroedd eraill yng Nghymru. Mae’n hen bryd unioni’r sefyllfa yma er mwyn rhoi cyfleoedd teg a chydradd i holl blant a phobl ifanc y Sir.

“Sylweddolwn fod penderfyniadau anodd i'w gwneud gan Gyngor Sir Powys dros y misoedd nesaf. Bydd gofyn am ewyllys gwirioneddol i wneud dewisiadau a fydd yn gwireddu’r weledigaeth a nodir yn nogfen moderneiddio uwchradd Powys ynghyd â thargedau strategol y Cynulliad o ehangu cyfleoedd i dderbyn addysg Gymraeg. Pwysleisiwn fod cyfle euraidd yma i wneud newid hanesyddol er gwell, a fydd yn caniatáu i blant a phobl ifanc Powys dderbyn addysg gyflawn Gymraeg yn eu cymunedau lleol.”



Yn ôl i'r rhestr newyddion >