Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

RhAG yn gosod her i Lywodraeth nesaf y Cynulliad
(13-12-2010)

Heddiw cyhoeddodd y mudiad cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) eu maniffesto gogyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011.

Yn y ddogfen mae'r mudiad yn galw am Fesur Addysg Gymraeg newydd a fydd yn diogelu hawliau rhieni i roi addysg Gymraeg i'w plant. Mae RhAG hefyd am weld Llywodraeth nesaf Cynulliad Cymru'n ymyrryd pan nad yw awdurdod lleol yn cyflawni gofynion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a lanswyd gan y Gweinidog Addysg ym mis Ebrill eleni.

Mae'r maniffesto hefyd yn tynnu sylw at anawsterau sy'n parhau i lesteirio a llyffetheirio twf a datblygiad addysg Gymraeg ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys problemau o ran mesur y galw a gweithredu ar y canfyddiadau, diffyg blaengynllunio digonol, problemau dilyniant ieithyddol, cludiant, hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a chefnogaeth i rieni sy'n dewis rhoi addysg Gymraeg i'w plant. Mewn cyfnod o gynni economaidd gyda gofynion ariannol enfawr ar lywodraeth ganol a lleol, mae'r maniffesto'n annog edrych yn greadigol ar ffyrdd o gyflymu twf addysg Gymraeg trwy ystyried model y 'dosbarth cychwynnol' sy'n ddull y mae Caerdydd wedi'i weithredu'n llwyddiannus ers sawl blwyddyn bellach.

Meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, "Mae'r maniffesto'n ymgorfforiad o'n profiadau ni fel mudiad ac yn cwmpasu'r problemau hynny sy'n parhau i fygu twf addysg Gymraeg mewn rhannau helaeth o Gymru. Yn naturiol rydym yn croesawu dyfodiad y Strategaeth newydd sydd wedi arddangos llywodraeth ganol am y tro cyntaf yn cymryd yr awenau yn y gwaith o gynllunio’n strategol i ymateb i’r galw cynyddol am Addysg Gymraeg. Yn sgil hynny rydym am osod her nid yn unig i lywodraeth nesaf y Cynulliad, ond yn ogystal i'r awdurdodau lleol, sicrhau eu bod yn cadw at eu addewidion ac yn cydymffurfio o ran eu dyletswyddau i rieni Cymru parthed dewis iaith addysg eu plant."

"Mae tystiolaeth eisioes yn awgrymu nad yw awdurdodau lleol sy’n mynd ati i gynllunio addysg Gymraeg yn rhoi’r sylw priodol i’r Strategaeth hon. Un pryder yw nad oes gofynion statudol ynghlwm wrthi. Gall hyn olygu y cyfyd sefyllfa lle bydd strategaeth yn bodoli ond nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad y gallu i sicrhau ei gweithredu’n llawn ac y bydd awdurdodau lleol o ganlyniad yn parhau i beidio cyflawni."

"Bu'r wythnos diwethaf yn garreg filltir hanesyddol o safbwynt yr iaith Gymraeg gydag aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio o blaid rhoi statws swyddogol iddi o fewn y Mesur Iaith newydd. Gyda dyfodiad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg eleni ynghyd a'r Strategaeth Iaith arfaethedig mae’n glir i ni fod angen i’r holl elfennau hyn fynd law yn llaw. Ni ellir cyflawni dyheadau’r Strategaeth Iaith mewn sawl maes oni bai bod y Strategaeth Addysg yn effeithiol wrth gynyddu niferoedd siaradwyr a sgiliau ieithyddol y gweithlu. Mae RhAG felly am weld cryfhau'r cydgordio rhwng yr elfennau hyn. Cydnabyddir bellach mai Addysg Gymraeg yw'r prif offeryn sydd wedi troi'r trai yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae’n glir fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar sicrhau’r amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu a datblygu. Lle mae dyhead a galw o du rhieni yn gyrru’r twf mewn addysg Gymraeg, mae rhaid i Awdurdodau Lleol dan arweiniad clir Llywodraeth y Cynulliad ymateb trwy ddiwallu’r galw hwnnw’n briodol."


Yn ôl i'r rhestr newyddion >