Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Llythyr trawsbleidiol yn galw ar y Gweinidog i beidio â derbyn Cynlluniau gwan
(30-01-2017)

I sylw:

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, 2017-20

Gwyddom i chi ysgrifennu ym mis Awst 2016, at holl Gynghorau Sir Cymru, yn gofyn iddynt gyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg newydd i gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth.

Cafodd y Cynghorau gyfarwyddyd gennych ar ran Llywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol, ac i roi sylw i hyn, ymysg materion eraill:

• “Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”
• “mwy o blant mewn addysg Gymraeg”
• “os oes unrhyw ysgolion cyfrwng Cymraeg o fewn trothwy capasiti o 10% neu’n agosáu at hynny, nodwch eich cynlluniau i sicrhau bod digon o leoedd ar gael”
• “Pryd cynhaliwyd asesiad addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â Rheoliadau 2014 ddiwethaf?”
• “Sut bydd yn bwriadu darparu gwybodaeth i rieni ar fanteision addysg cyfrwng Cymraeg yn eich Sir?”
Mae gofynion eraill cyfarwyddyd y Llywodraeth yn cynnwys, ymysg materion eraill, cael gwell dilyniant rhwng y sectorau addysg, rhagor o ddisgyblion yn astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a darparu gwasanaeth Cymraeg i rai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae RhAG wedi bwrw golwg dros Gynlluniau Strategol yr holl siroedd. Mae dau neu dri chynllun yn foddhaol, ac yn manylu ar sut y bydd addysg Gymraeg yn tyfu. Yn anffodus, fodd bynnag, mae mwyafrif helaeth y Cynlluniau Strategol yn anfanwl, yn anuchelgeisiol, ac yn anwybyddu llawer o gyfarwyddiadau’r Llywodraeth. Mae llawer o’r Cynlluniau Strategol yn ddisgrifiadol – yn disgrifo’r hyn sydd wedi digwydd – yn hytrach nag yn ddatblygiadol. Yn gyffredinol dyma’r gwendidau:

• Ychydig iawn o fanylion am sut bydd y Siroedd yn darparu rhagor o leoedd ar gyfer addysg Gymraeg
• Ychydig iawn o wybodaeth am sut mae Siroedd am roi gwybod i rieni am fanteision addysg Gymraeg

• Bron dim sylw i ysgolion Cymraeg sy’n llawn, neu sydd o fewn 10% i’w capasiti
• Ychydig o sôn am fesur y galw am addysg Gymraeg, a ninnau’n gwybod bod gwahanol Siroedd yn anwybyddu cyfarwyddyd y Llywodraeth ar sut i’w gynnal
• Ychydig iawn o sylw i weledigaeth y Llywodraeth o weld twf cyflym addysg Gymraeg
Nid yw’r Cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn ‘cryfhau a chynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg’ nac ychwaith yn arddangos yr uchelgais sy’n ddisgwyledig gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen cylch newydd o gynlluniau blaengar, mentrus a heriol, sy’n gosod hyrwyddo addysg Gymraeg wrth galon blaengynllunio darpariaeth yn y dyfodol.

Yn sgil hyn, rydym yn galw arnoch i beidio â derbyn y Cynlluniau anuchelgeisiol hyn, gan ofyn i’r Cynghorau fynd ati i’w hail-lunio.

Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb.

Yn gywir

Llyr Huws Gruffydd AC
Jeremy Miles AC
Darren Millar AC


Yn ôl i'r rhestr newyddion >