Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd: clychau’n canu
(02-09-2015)

Mae peryglon na fydd dosbarth cychwynnol ar gyfer Grangetown a Thre-biwt yn agor fis Medi yma yn arwydd o fethiannau ehangach Cyngor Caerdydd mewn perthynas â chynllunio darpariaeth Addysg Gymraeg ar draws y ddinas.

Dyma ymateb mudiad RhAG i ofidiau rhieni lleol na fydd y Cyngor yn cadw at eu haddewid i agor y dosbarth cychwynnol ar safle Ysgol Parc Ninian, sef egin yr ysgol newydd a ddylai agor ar safle parhaol yn 2017.

Ar sail ffigyrau’r Cyngor ar gyfer Gorffennaf, mae RhAG yn ymwybodol bod 105 o ddisgyblion a gyflwynodd gais dewis cyntaf am le yn ysgolion Cymraeg y ddinas wedi’i gwrthod. Yn sgil hynny, does wybod faint sydd wedi’i eu colli i’r sector cyfrwng Saesneg nac ychwaith faint sydd o hyd yn y system apeliadau. Mae hynny’n cynrychioli colled o 13% o holl geisiadau Addysg Gymraeg i’r Dosbarth Derbyn ar gyfer Medi 2015. Roedd y golled ar gyfer Medi 2014 oddeutu 5%.

Meddai Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd, “ Dylai clychau rhybudd fod yn canu gan fod problemau niferus i’w canfod ledled y ddinas. Yn y dwyrain, rhwng Bro Eirwg a Phenypil mae 13 plentyn wedi methu cael lle heb ysgol arall agos yn bosibilrwydd ymarferol. Mae Glan Morfa wedi bod yn gwrthod disgyblion ers 3 mlynedd a mwy, a’r un sefyllfa sydd yno eleni gyda 5 cais wedi’i gwrthod. Yn y gogledd mae sefyllfa Mynydd Bychan (gwrthodwyd 19) yn annerbyniol a dyw’r Wern ar 75 ddim yn gallu cwrdd â’r galw gyda 3 heb gael lle. Roedd y ceisiadau ar gyfer Melin Gruffydd 7 dros eu rhif safonol a Phencae yn 21. Yn y gorllewin mae angen dybryd i wneud rhywbeth ar gyfer Nant Caerau ac roedd Treganna yn orlawn o 16 cais.

“Mae angen gweithredu ar unwaith trwy ymestyn y ddarpariaeth bresennol fel datrysiad dros dro ac agor ysgolion newydd i gwrdd â’r galw. Mae anrhydeddu’r ymrwymiad i agor dosbarth cychwynnol Grangetown a Thre-biwt yn rhan anhepgorol o gynlluniau’r Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg yn y ddinas, fel sydd wedi’i ymgorffori yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Caerdydd, dogfen statudol sydd wedi derbyn sęl bendith y Gweinidog Addysg. Er bod y sir wedi cyhoeddi eu bwriad i fwrw ‘mlaen gyda’r dosbarth, roedd y ffaith na wnaed rhieni yn hysbys o hynny tan fis Mai ac na chafodd y trefniadau eu cadarnhau tan fis Awst, yn llawer rhy hwyr; felly mae’r argyfwng presennol yn ffrwyth diffyg gweithredu’n ddigon cynnar sydd wedi sigo ffydd a hyder rhieni’r ardal. Mae angen i’r arweinyddiaeth bresennol adfer hynny trwy gymryd rheolaeth o’r sefyllfa a chynnig arweiniad rhagweithiol a chadarn, a hynny ar fyrder.

“Yn ychwanegol at hynny, galwn ar Gyngor Caerdydd i gynnal adolygiad brys o ddalgylchoedd yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ynghyd ag adolygu’r broses derbyn i ysgolion er mwyn cynnig mwy o degwch a sicrwydd i rieni wrth wneud ceisiadau am leoedd mewn ysgolion Cymraeg.”

diwedd


Yn ôl i'r rhestr newyddion >