Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Addysg Uwchradd Powys: angen cynlluniau radical ar gyfer Addysg Gymraeg
(14-07-2015)

Dylai cynigion i ad-drefnu addysg uwchradd ym Mhowys gynnwys cynlluniau pendant i sefydlu ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg ac i hynny fod yn egwyddor diamwys syn sail ir holl adolygiad.

Dyma alwad RhAG mewn ymateb i Adolygiad Uwchradd Gogledd Powys ar ymgynghoriad ffurfiol i gaur ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu syn rhan o ymarferiad ehangach i ad-drefnu darpariaeth uwchradd ledled y sir.

Mae RhAG wedi manylu y dylai unrhyw ad-drefnu sicrhau ysgolion penodedig Cymraeg ym Machynlleth a Llanfair Caereinion a sicrwydd y bydd darpariaeth gyflawn Gymraeg yn Llanfair ym Muallt, er mwyn sicrhau cydraddoldeb dewis a chyfle gwirioneddol i ddisgyblion syn dymuno derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir.

Dywedodd Ceri Owen ar ran RhAG, Daeth yn amlwg ers cryn amser nad ywr gyfundrefn bresennol yn gynaliadwy, naill ain addysgol nac yn ariannol. Nid ywr drefn presennol yn darparu cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion Powys dderbyn addysg uwchradd gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg gan fod yn rhaid teithio allan or sir er mwyn cael addysg uwchradd Gymraeg ar hyn o bryd. Felly yng ngwyneb cynlluniau i fuddsoddin sylweddol i weddnewid y sector cyfrwng Saesneg ym Mhowys, mae angen gweledigaeth yr un mor bellgyrhaeddol o safbwynt addysg Gymraeg. Mae hwn yn gyfle euraidd i drawsnewid darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhowys er gwell.

Byddai sefydlu ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf Powys yn torrir cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd. Mae Ysgol Bro Hyddgen wedi datblygu dros y blynyddoedd i weithredu fel ysgol Gymraeg fwy neu lai, ac felly cam naturiol fyddai ffurfioli hynny. Y lleoliad mwyaf rhesymegol ar gyfer ysgol Gymraeg i wasanaethu gogledd ddwyrain y sir - yn seiliedig ar y ddarpariaeth ar hyn o bryd - yw Llanfair Caereinion mae lefel bresennol y ddarpariaeth Gymraeg ynghyd r lleoliad daearyddol canolog yn gwneud hynnyn gynnig synhwyrol ac ymarferol.

Yn yr un modd mae angen cynnig cyfleoedd cyfatebol yn ner sir, trwy sicrhau bod Llanfair-ym-Muallt yn cynnig ystod llawn o gyrsiau Cymraeg, a sefydlu cytundeb traws-sirol ir rhai sydd am barhau i dderbyn addysg Gymraeg, yn arbennig o safbwynt darpariaeth l 16, allu teithio i ysgolion Cymraeg mewn siroedd cyfagos. Cyfuno ac atgyfnerthur ddarpariaeth yn Llanfair-ym-Muallt fyddain cynnig y siawns orau o wireddu hynny.

Yng ngwyneb pwysau cyllidol aruthrol, daeth yr amser i Aelodau Etholedig Powys gymryd penderfyniadau anodd a chanfod y dewrder i wneud newidiadau sylfaenol a gaiff effaith ar ddarparu addysg ym Mhowys am y chwarter canrif nesaf. Nid oes gwadu bod cyfrifoldeb enfawr ganddynt y cyfrifoldeb i roi chwarae teg gwirioneddol i holl blant a phobl ifanc Powys. Mae Powys wedi llusgo traed ar y mater hwn ers cryn amser a thrwy hynny wedi amddifadu disgyblion a theuluoedd y sir ers blynyddoedd maith. Bellach mae ymrwymiadau wedi eu ymgorffori yng Nghynllun y Gymraeg mewn Addysg 2014-17 Cyngor Powys i wneud cynnydd ar y mater hwn: daeth yn hen bryd iddynt weithredu a chyflawni ar yr addewidion hynny.

Nid yw parhau r sefyllfa bresennol yn opsiwn hyfyw na chynaliadwy mae angen newid radical a datrysiad fydd yn cynnig tegwch i bawb, a hynny fel mater o frys.



Yn ôl i'r rhestr newyddion >