Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Galw ar Aelodau Cabinet Caerdydd i wneud yr hyn sy’n iawn
(21-07-2013)

MEWN llythyr anfonwyd heddiw at holl aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd, mae RhAG wedi erfyn arnynt i ddiogelu lles a buddiannau addysg Gymraeg yn y brifddinas trwy anrhydeddu’r addewid i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown.

Bydd pleidlais ar bapur fydd yn mynd gerbron y Cabinet yfory (Dydd Llun, Gorffennaf 22ain) sy’n cynnig tynnu nôl yn gyfangwbl o’r cynllun gwreiddiol i agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown yn 2015, i ddefnyddio’r safle a adnabyddwyd ar gyfer yr ysgol Gymraeg er mwyn agor ysgol newydd Saesneg ac i gywasgu trydedd ffrwd barhaol ar safle Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd

Dyma adwaith ddiweddaraf y cyngor wrth iddynt geisio ymateb i’r galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Mae RhAG o’r farn y byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae’r mudiad hefyd yn dadlau fod sicrhau ysgol Gymraeg newydd i Grangetown yn hollbwysig o safbwynt cynnig cyfloedd teg i rieni sydd am ddewis Addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi ac yn pwyso ar y Cyngor i beidio cefnu ar y weledigaeth sylfaenol o ddarparu ‘ysgolion lleol i blant lleol’ mewn perthynas ag Addysg Gymraeg

Mae’r mudiad yn galw ar y Cabinet i wrthod y cynnig sydd gerbron ac i flaenoriaethu lles a buddiannau plant yr ardal uwchben popeth arall.

Daw hyn cyn i rieni a chefnogwyr baratoi i brotestio o flaen Neuadd y Sir brynhawn yfory i leisio cryfder eu gwrthwynebiad.

diwedd

Nodiadau

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net

Dyma’r llythyr yn llawn:

Annwyl Gynghorydd

Ysgrifennaf atoch fel aelod o Gabinet Cyngor Caerdydd cyn ichi ymgynnull yfory i drafod mater sydd o bwys eithriadol.

Ar ran aelodau pwyllgor RhAG Caerdydd erfyniwn arnoch i ddiogelu lles a buddiannau addysg Gymraeg yn ein prifddinas ac i anrhydeddu’r addewid i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown.

Rydym o’r farn nad yw’r cynnig i helaethu Ysgol Pwll Coch a sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno yn ddatrysiad derbyniol i’r galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.Mae gwrthwynebiad y rhieni i’r cynnig hwnnw’n glir. Amlygwyd hyn yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill, lle bu’r ymateb yn ffyrnig ar lafar ac mewn 179 o lythyron gwrthwynebus gyda 17 yn unig o blaid y cynllun.

Byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal.
Ym mis Ebrill ysgrifennodd RhAG at y Cyng. Julia Magill yn ceisio sicrwydd nad oedd bwriad i dynnu Ysgol Gymraeg Newydd Grangetown o gynllun Ysgolion 21G y Cyngor. Y mis Mai cafwyd cadarnhad ganddi fod yr ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan o gynlluniau’r Cyngor. Byddwch hefyd yn ymwybodol fod cyfeiriad at Ysgol Gymraeg Newydd Grangetown yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, cynllun sydd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth ac fydd ar sail statudol o 2104 ymlaen.

Felly mae’r cynnig fydd ger eich bron yfory yn dro pedol llwyr ar yr ymrwymiad cyhoeddus a gafwyd cyn hyn: cynllun fel y gwyddoch sydd eisoes wedi derbyn sel bendith Llywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf wedi’i glustnodi ers 2011.
Dengys patrymau twf diweddar yn y galw am Addysg Gymraeg yn yr ardal, fod angen dybryd am fwy o leoedd. Gwyddom bydd y ddwy ysgol sy'n gwasanaethu ardaloedd Treganna a Grangetown yn orlawn erbyn 2015. Mae cyfanswm y plant sydd wedi gwneud cais am le yn y ddwy ysgol ar gyfer Medi 2013 yn 154, sef dros 5 ffrwd ac yn gynnydd o 7 uwchben cyfanswm y llynedd, nid y cwymp i 136 disgybl, sef yr hyn roedd y Cyngor yn ei ddarogan yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill. Mae’r twf blynyddol yn yr ardal yn gyson oddeutu 10% sy’n uwch na chyfartaledd y twf ar draws Caerdydd. Mae’r ddogfen bresennol felly’n dyfynnu hen ffigyrau sy’n tangyfrif y nifer mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd ac yn rhagdybio galw llawer llai yn y dyfodol. Ni ellir ystyried fod y ddogfen hon yn cynnig sail gadarn a dibynadwy i benderfyniadau mor dyngedfennol.

Mae sicrhau Ysgol Gymraeg Newydd i Grangetown yn hollbwysig o safbwynt cynnig cyfloedd teg i rieni sydd am ddewis Addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi.

Pwyswn arnoch i beidio cefnu ar weledigaeth sylfaenol y Cyngor o ddarparu ‘ysgolion lleol i blant lleol’ ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno dewis Addysg Gymraeg a gofynnwn ichi sicrhau cydraddoldeb i blant Grangetown a rhoi’r hawl iddynt fynychu ysgol leol fel sydd wedi digwydd ers sefydlu Ysgol Tan-yr-eos ers 2007.

Mae polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn gosod nod o gael 30% o blant 7 oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020. Ar hyn o bryd mae ychydig dan 20% o blant Caerdydd yn derbyn addysg Gymraeg. Felly nod y Llywodraeth yw cynnydd o 50% o blant ysgol yn dechrau yn y sector cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2018. Ni fydd modd dod yn agos at wireddu hyn heb gadw at yr addewidion am drydedd ysgol yn ardal Treganna a Grangetown. Mae sicrhau’r ysgol hon fel rhan o flaengynllunio strategol y Cyngor yn allweddol.
Am y rhesymau uchod felly galwn arnoch i wrthod y cynnig fydd dan eich ystyriaeth yfory ac i wneud yr hyn sy’n blaenoriaethu lles a buddiannau plant yr ardal uwchben popeth arall.

Galwn arnoch i beidio ag arallgyfeirio £6M o arian Llywodraeth Cymru sydd wedi’i glustnodi i addysg Gymraeg ers 3 blynedd.
Galwn arnoch i anrhydeddu’r cynllun gwreiddiol ac i adeiladu ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown.

Yn gywir

Ceri Owen
Ar ran Pwyllgor RhAG Caerdydd



Yn ôl i'r rhestr newyddion >