Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

Cyngor Caerdydd: torri addewid am Ysgol Gymraeg newydd
(18-07-2013)

MAE RhAG wedi beirniadu’n hallt fwriad Cyngor Caerdydd i beidio anrhydeddu addewid i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Trelluest o’r ddinas ac i ddefnyddio’r safle hwnnw ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg.

Daw hyn fel tro u-bedol llwyr ar gynlluniau gwreiddiol y cyngor sy’n ffurfio rhan o’u Rhaglen Ysgolion 21G; cynllun sydd eisoes wedi derbyn sel bendith Llywodraeth Cymru gyda chyllid cyfalaf wedi’i glustnodi ers Rhagfyr 2011.

Mewn papur fydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Llun nesaf (Gorffennaf 22ain) ceir yn hytrach gynnig i helaethu’r ddarpariaeth bresennol - Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd - trwy sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno fel datrysiad i’r galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd, “Mae hwn yn gyhoeddiad cwbl syfrdanol ac yn codi cwestiynau sylfaenol am ymrwymiad Cyngor Caerdydd i Addysg Gymraeg. Bu RhAG yn feirniadol o’r Cyngor nôl ym mis Ebrill pan awgrymwyd na fyddai’r ysgol newydd yn agor yn unol â’r amserlen wreiddiol, sef 2015, a’r cynnig gafwyd i sefydlu trydedd ffrwd dros dro ym Mhwll Coch tan o leiaf 2016. Mae’n gwbl annealladwy fod y Cyngor nawr nid yn unig am droi cefn ar y cynllun gwreiddiol ond yn bwriadu defnyddio’r safle ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd.

“Dengys patrymau twf diweddar yn y galw am Addysg Gymraeg yn yr ardal, fod angen dybryd am fwy o leoedd. Gwyddom bydd y ddwy ysgol sy'n gwasanaethu ardaloedd Treganna a Threlluest yn orlawn erbyn 2015. Mae cyfanswm y plant sydd wedi gwneud cais am le yn y ddwy ysgol ar gyfer Medi 2013 yn 154, sef dros 5 ffrwd ac yn gynnydd o 7 uwchben cyfanswm y llynedd, nid y cwymp i 136 disgybl, sef yr hyn roedd y sir yn ddarogan. Mae’r twf blynyddol yn gyson oddeutu 10%. Er hynny, mae’r cyngor yn parhau i lynu at yr hen ffigyrau nad ydynt yn adlewyrchu gwir dwf y dyfodol a rhain yn frith trwy’r ddogfen. Cymharer hynny gyda sefyllfa’r sector cyfrwng Saesneg ble mae lleoedd ar gael – mae un ysgol o fewn yr ardal gyda 75% o leoedd gwag. Cofier hefyd y bydd y sector cyfrwng Saesneg yn ennill dwy ysgol yn ôl Fedi nesaf wrth agor adeilad newydd Ysgol Gymraeg Treganna, sef Ninian Park ac Ysgol Iau Radnor. Mae rhesymeg y sir yn gwbl ddi-sail felly a’r rhagdybiaeth yn parhau mai addysg cyfrwng Saesneg y bydd rhieni’n ei ddewis. Y gwir amdani yw mai adroddiad i gynyddu lleoedd addysg cyfrwng Saesneg yw hwn a hynny ar draul addysg Gymraeg yn yr ardal.

Ychwanegodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, “Mae’r sir wedi cadarnhau’n gyhoeddus ar sawl achlysur iddynt dderbyn caniatâd y Gweinidog i agor ysgol newydd ar gyfer Grangetown er mwyn derbyn y twf yn y galw a ddisgwylwyd yn yr ardal. Caiff eu bwriad ei gynnwys hefyd yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir, sydd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth ac a fydd o fis Ionawr nesaf ymlaen ar sail statudol. Ategwyd hynny ymhellach mewn llythyr anfonwyd at RhAG ar Ebrill 9fed gan y Cyng. Julia Magill, Deilydd Portffolio Addysg Caerdydd, pan ddywedodd fod yr ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan o gynlluniau’r Cyngor. Gwelwn yn awr mai geiriau gwag oedd rhain. Mae’n gwbl amlwg bellach mai polisi’r Cyngor o safbwynt Addysg Gymraeg yw canoli’r ddarpariaeth a’u bod yn cefnu ar y weledigaeth o ddarparu ‘ysgolion lleol i blant lleol’ ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno dewis Addysg Gymraeg.

“Mynnwn wybod hefyd sut mae’r cynnig hwn yn cydfynd ag amcanion a thargedau cenedlaethol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg? Mae polisi’r Llywodraeth yn gosod nod o gael 30% o blant 7 oed yn derbyn eu haddysg trrwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020. Ar hyn o bryd mae ychydig dan 20% o blant Caerdydd yn derbyn addysg Gymraeg. Felly nod y Llywodraeth yw cynnydd o 50% o blant ysgol yn dechrau yn y sector cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2018. Ni fydd Caerdydd yn dod yn agos at wireddu hyn heb gadw at eu addewidion am 3edd ysgol yn ardal Treganna a Threlluest.

Galwn felly ar Julia Magill i egluro pam ei bod wedi bradychu Addysg Gymraeg yn yr ardal hon ac ar y Cabinet i wyrdroi’r penderfyniad cywilyddus hwn ar unwaith.”
diwedd


Yn ôl i'r rhestr newyddion >