Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
newyddion

RhAG yn galw am chwarae teg i addysg Gymraeg wrth ddyrannu cyllid cyfalaf
(30-11-2011)

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i dynnu sylw at anghenion datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg o fewn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Daw hynny'n sgil y ffaith fod awdurdodau lleol bellach wedi diwygio blaenoriaethau eu ceisiadau gwreiddiol am gyllid cyfalaf ac wedi ail gyflwynor ceisiadau hynny i sylw swyddogion y llywodraeth. Prif amcan y rhaglen dan sylw yw sicrhau fod ysgolion Cymrun addas at ddibenion yr 21ain ganrif er mwyn arwain at well deilliannau addysgol ar defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau. Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi pwyslais blaenllaw ar leihau llefydd gweigion mewn ysgolion sy'n cael ei ystyried yn faen prawf canolog o safbwynt y broses llunio ar broses werthuso.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad, "Tran deall yr angen cyffredinol i fynd ir afael lleihau llefydd gwag, maen rhaid tynnu sylw at y ffaith nad ywr gofyniad hwn yn uniongyrchol berthnasol i sefyllfar ysgolion cyfrwng Cymraeg. Drwyddi draw, maen amlwg bod angen arian ychwanegol ar ysgolion Cymraeg syn gorlenwi, er mwyn ehangur ysgolion hynny neu i fynd ati i adeiladu ysgolion newydd."

"Or herwydd credwn na all llefydd gwag mewn ysgolion eraill fod yn faen prawf o safbwynt twf addysg Gymraeg. Pryderwn y caiff ei gam briodoli mewn achosion ble mae angen ymateb yn rhagweithiol ir galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, a lle mae sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymrun hanfodol er mwyn caniatu i awdurdodau lleol ddiwallur galw hwnnw. Pryderwn felly fod siawns ir rhaglen osod y sector cyfrwng Cymraeg dan anfantais or cychwyn cyntaf os mai lleihau llefydd gwag ywr prif faen prawf tran sgorio ceisiadau."

"Tran cydnabod fod llai o gyllid ar gael a chyfrifoldebau o ganlyniad i sianelur arian hwnnwn ofalus, pwysleisiwn y bydd penderfyniadau a wneir o safbwynt dosbarthu cyllid y rhaglen yn cael effaith uniongyrchol ar ddymuniad rhieni i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl rhan o Gymru. Mae goblygiadau hefyd wrth gwrs o ran cyflawni egwyddorion craidd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y llywodraeth. Heb gefnogaeth ariannol bydd yn anodd iawn, neu hyd yn oed yn amhosib mewn ambell achos, i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd statudol ac i wireddu amcanion y Strategaeth, Yn wir, mae rhai awdurdodau wedi cyrraedd pwynt argyfwng ble mae cael sicrwydd o gyllid cyfatebol gan y llywodraeth yn angenrheidiol er mwyn eu caniatu i ddarparu llefydd cyfrwng Cymraeg digonol yn y dyfodol agos. Ein pryder pennaf felly yw y gallai sefyllfa amlygui hun ble bydd un o bolisau Llywodraeth Cymru yn tanseilio amcanion un arall."

Mae'r mudiad wedi gofyn am eglurhad ar statws addysg cyfrwng Cymraeg o safbwynt meini prawf dyrannu cyllid ir awdurdodau unigol o fewn y rhaglen, pa feini prawf penodol sydd mewn lle ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ynghyd natur y drafodaeth rhwng Uned Datblygur Iaith Gymraeg o fewn y llywodraeth ar Uned syn arwain ar y Rhaglen Ysgolion 21G wrth bwyso a mesur y cynigion.

"Credwn fod hynnyn allweddol, nid yn unig er mwyn cydgordio amcanion yr adrannau hynny, ond er mwyn gwireddu dyheadau ehangach Llywodraeth Cymru mewn perthynas chynyddur cyfleoedd i dderbyn addysg Gymraeg."

Yn ôl i'r rhestr newyddion >