Newyddion

-
Ymateb i gynnig Cyngor Caerdydd i agor ysgol ddwy ffrwd newydd (cyfrwng Cymraeg a chyfrwng dwyieithog) 18/4/19







-
Cam mawr ymlaen i Addysg Gymraeg yng Nghasnewydd
-

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn croesawu datganiad Cyngor Dinas Casnewydd heddiw sy’n rhoi manylion pellach am gynlluniau am bedwaredd Ysgol Gymraeg y ddinas a fydd yn cychwyn mewn dosbarth dechreuol ym Medi 2020 yn ardal Caerllion ac yna’n symud i safle parhaol yn ardal Pillgwenlli ym Medi 2022.

Bydd hyn cynyddu’r ddarpariaeth ymhellach yn ne orllewin y ddinas - ardal sydd wedi dangos galw cyson dros y blynyddoedd. Bydd hi’n ysgol ddwy ffrwd.

Mae cynnydd cyson wedi digwydd yng Nghasnewydd dros y ddegawd ddiwethaf gyda dwy ysgol Gymraeg newydd yn agor. Bydd y bedwaredd yn cynyddu’r ddarpariaeth ymhellach ac yn
cynnig lleoliad agosach i rieni'r ardal hon sydd i’w groesawu.

Dywedodd Elin Maher, cydlynydd grŵp Rhieni Dros Addysg Gymraeg Casnewydd,

“Mae hyn yn newyddion ardderchog ac rydym am longyfarch Cyngor Dinas Casnewydd am gynllun hyderus sydd yn cynnig cyfleoedd pellach i blant Casnewydd gael o leiaf dwy iaith o’r cychwyn.

"Mae’n amlwg fod ymgyrchoedd hyrwyddo diweddar gan nifer o bartneriaid cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â chynlluniau cyffrous cyn-ysgol i gefnogi’r datblygiad hwn,
yn dangos cynllunio cydlynus ac yn dwyn ffrwyth. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r gwaith ymhellach wrth i’r cyfnod ymgynghori gychwyn ac i weld drysau’r ysgol newydd hon yn agor yn 2020.”

Diwedd

-
Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd: hyrwyddo Addysg Gymraeg yn amlieithog
-

I GYD-FYND â Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd, a gynhelir am y tro cyntaf erioed yfory (27 Mawrth), bydd RhAG yn lansio taflenni amlieithog er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg i gymunedau amlddiwylliannol Caerdydd a thu hwnt.

Mae'r daflen, sy'n hyrwyddo manteision addysg Gymraeg, wedi ei chyfieithu i 9 o'r prif ieithoedd a siaredir yn y brifddinas, sef Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwyleg, Somali ac Urdu.

Caiff y taflenni eu cyhoeddi fel adnodd dilynol i ffilm fer a lansiwyd y llynedd, oedd yn brosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch TAG a chwmni Orchard ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n anelu i gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg.

Awgrymwyd dyddiad Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd gan Dr Thomas Bak, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caeredin, a chefnogwyd y syniad gan Ute Limacher, perchennog International Lounge a Dr.Cate Hamilton, cyd-sylfaenydd Babel Babies. Mae'n nodi'r dyddiad a ysgythrwyd ar Garreg Rosetta (27 Mawrth 196 BC), y gellid dadlau yw testun amlieithog mwyaf enwog y byd.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

" Yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchu'r taflenni hyn oedd agor Ysgol Hamadryad yn 2016, sef yr ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru.

" Yn ganolog i’r ymgyrch wrth sefydlu'r ysgol, roedd y dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg. Ac felly mae'r taflenni hyn yn torri tir newydd o ran cyflwyno’r Gymraeg i gymunedau newydd a'i gosod mewn cyd-destun amlieithog fel sydd i'w gael yng Nghaerdydd. Gwyddom fod Catalwnia yn gwneud llawer i hyrwyddo’r Gatalaneg mewn ieithoedd eraill ac felly dyma ymdrech i ddechrau ar y gwaith pwysig hwnnw yma yng Nghymru.

" Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru. Hyderwn y bydd y taflenni a'r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn. Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.

" Mae siwrnai gyffrous o’n blaenau wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf - cymunedau sydd eisoes yn amlieithog - ac mae lledaenu'r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”

Meddai Trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd 2019,

"Mae pawb yn ieithydd. Mae pobl yn siarad. Dyma beth mae pobl yn ei wneud. Fel rhywogaeth rydym wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd ac wedi addasu i siarad mwy nag un iaith yn hawdd iawn."

" Ond rywsut mae'r drafodaeth wedi newid dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf a'r canfyddiad yn amlach na pheidio yw bod siarad mwy nag un iaith yn rhywbeth afreolaidd, neu unigryw, er bod mwy na dwy ran o dair o boblogaeth y byd yn siarad dwy iaith neu fwy yn eu bywydau bob dydd."

" Nod Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd yw dathlu amrywiaeth ieithyddol a'r ffordd aml-haenog, amlieithog y mae pobl yn defnyddio ieithoedd bob dydd."

" Gobeithiwn y bydd hadau'r diwrnod, fel yr ieithoedd eu hunain, yn ffynnu ac yn tyfu mewn amrywiol ffyrdd wrth i wahanol gymunedau a chefnogwyr eu cofleidio ar 27 Mawrth. Mae amlieithrwydd yn gyffredin. Gadewch i ni ei ddathlu, yn ei holl ffurfiau! "

Diwedd

-
21/3/19 - Penderfyniad Cabinet RhCT: cam yn ôl i'r Gymraeg ym Mhontypridd
-

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad Cabinet Cyngor RhCT i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.

Meddai Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG,

"Mae penderfyniad heddiw yn hynod siomedig. Mae RhAG yn rhannu pryderon rhieni ac ymgyrchwyr lleol sy’n gofidio y bydd bwrw ymlaen â'r cynnig hwn yn cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd.

"Nid yw'r cynnig yn ymateb i anghenion addysgol ac ieithyddol yr ardal. Ni fydd amddifadu cymunedau o addysg Gymraeg hygyrch a lleol yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Ac ni fydd cynyddu’r rhwystrau i gael mynediad at addysg Gymraeg yn cynorthwyo’r Sir i greu 6,054 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol erbyn 2021, fel sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Strategol y Gymraeg RhCT 2017-20

"Rydym o'r farn bod y cynnig yn wallus ac nad yw'n profi bod gwaith digonol ac ystyrlon wedi ei wneud i ymchwilio i safleoedd posibl eraill – megis safle hen ysgol Tŷ Gwyn, fel sydd wedi’i gadarnhau drwy gais Rhyddid Gwybodaeth - nac ychwaith wedi mesur yn llawn, effaith ieithyddol y cynnig ar gymunedau gogledd y dref.

"Tra’n derbyn yn llwyr bod angen buddsoddi mewn adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Pont Sion Nortôn – ac yn wir, wrth groesawu’r buddsoddiad gwerthfawr hwnnw - mae gwersi o siroedd eraill wedi dangos bod cymryd y penderfyniad anghywir yn medru arwain at ganlyniadau anuniongyrchol, all gael effaith andwyol ar sefydlogrwydd a thwf y ddarpariaeth. Byddai’n gwbl anfaddeuol syrthio i’r un fagl yn yr achos hwn.

"Heddiw mae'r Cabinet wedi colli cyfle i ofyn i swyddogion gynnal gwaith pellach ar ystod o opsiynau amgen, creadigol er mwyn ymateb i bryderon rhieni a chadw’r ddarpariaeth yn lleol yng nghymunedau Pontypridd.

"Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid mynd â chymunedau RhCT - a gweddill Cymru - gyda ni ar hyd y daith, ac nid eu dieithrio oddi wrth y Gymraeg."

Diwedd

-
Rhieni Pontypridd yn cynnal protest i frwydro dros addysg Gymraeg lleol - 20/3/19
-

Bore yfory, dydd Iau 21 Mawrth, am 9.30yb, bydd rhieni a chefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yn cynnal protest y tu allan i adeilad y Cyngor yng Nghlydach wrth i aelodau Cabinet RhCT drafod cynigion i adrefnu ysgolion yn ardal Pontypridd.

Y cynnig presennol yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.
Mae'r ymgyrchwyr yn pryderu y gall hyn arwain at ddirywiad sylweddol yr iaith Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd.

Meddai Angela Gerrard - rhiant ac aelod o'r grŵp ymgyrchu Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg Lleol, a fydd yn y brotest yfory,

"Gyda’r cynlluniau arfaethedig yn eu ffurf ffurfiannol, rydym yn annog y Cabinet a’r Cyngor i ystyried o ddifrif sgil-effeithiau y cynnig yma ac i ystyried opsiynau eraill. Mae adeilad newydd i Bont Siôn Norton yn hanfodol, gan nad yw yn ei ffurf bresennol yn addas fel Ysgol 21ain Ganrif. Ond mae’r cynnig i symud yr ysgol allan o ogledd Pontypridd - a chreu siwrnai o hyd at chwe milltir i ardaloedd Ynysybwl, Glyncoch a Choedycwm - ymhell o fod yn ddelfrydol ac yn golygu taith hir ar fws.
"Mae'n bwysig iawn bod plant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae teuluoedd sydd heb fynediad i geir wedi mynegi pryderon ynghylch sut y byddant yn cyrraedd clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol neu'n cyrraedd eu plant mewn argyfwng. Mae rhai rhieni yn dweud yn agored eu bod yn pryderu cymaint am y sefyllfa, fel na fyddant yn gallu dewis yr opsiwn cyfrwng Cymraeg am resymau ymarferol. Bydd hyn creu rhwystrau ychwanegol i rieni wrth wneud y penderfyniad i ddewis addysg Gymraeg ai peidio."

Mae ceisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi cadarnhau nad yw Cyngor RhCT wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i safleoedd posib eraill. Mae'r Ymgyrch yn pwyso ar y Cyngor i ystyried safle Ysgol Tŷ Gwyn fel lleoliad ar gyfer Ysgol Gyfrwng Gymraeg newydd ar gyfer disgyblion cymunedau Ynysybwl, Coed y Cwm a Glyncoch. Maent hefyd yn awgrymu y dylai safle presennol YGG Pont Sion Norton gael ei addasu i gyrraedd safon Ysgol 21 Ganrif, gan gynnwys adeilad newydd fel y gwaith a ymgymerwyd yn Ysgol Trerobart. Byddai hynny'n golygu cadw Ysgol Pont Siôn Norton fel ysgol Gymraeg ar ei newydd wedd ar gyfer disgyblion o Gilfynydd, y Comin a Trallwn. Dylai’r cynlluniau ar gyfer Heol y Celyn fynd rhagddo ac fe gaiff ei gofleidio gan y gymuned leol.

Ychwanegodd Angela Gerrard,

"Rydym yn teimlo na ellir caniatáu i’r cynlluniau presennol fynd yn eu blaenau heb i'r Cyngor ddangos yn glir eu bod wedi rhoi ystyriaeth ddwys ac ystyrlon i safleoedd eraill a fyddai’n caniatáu i blant dderbyn addysg Gymraeg o fewn eu cymunedau lleol, fel sy'n cael ei amlinellu yn Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru (2010)."

Mae Una Hilder, yn wreiddiol o Hampshire ond symudodd i Gilfynydd 8 mlynedd yn ôl ac mae bellach yn byw yno gyda’i gŵr a’i merch sydd yn mynychu Dosbarth Meithrin Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, hefyd yn bryderus iawn am oblygiadau'r cynnig ar ei theulu hithau.

“Does dim siaradwyr Cymraeg yn y teulu. Roedd yn benderfyniad anodd dewis addysg cyfrwng Cymraeg ond fe ddewison ni hynny oherwydd ein bod ni eisiau i'n merch fod yn ddwyiethog. A hefyd er mwyn iddi gael dealltwriaeth gwell o'r wlad lle mae hi wedi ei geni.

“Fe ddechreuais i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu ei chefnogi hi gyda’i haddysg ac rydyn ni'n defnyddio’r iaith fwyfwy yn y cartref. Ond yn anffodus gyda'r newidiadau sy'n cael eu hawgrymu i'r ysgolion lleol, rydyn ni nawr yn gorfod cysidro ei thynnu hi allan o addysg Gymraeg a'i rhoi hi mewn ysgol Saesneg.

“Y rheswn dros hyn yw nad oes gennym gar yn ystod y dydd a tydw i ddim yn hoffi'r syriad na alla i gyrraedd yr ysgol os ydw i angen gwneud hynny ar frys. A hefyd mae'n fwy pwysig i ni ei bod hi'n mynd i'r ysgol yn y gymuned leol lle ryda ni'n byw. Felly dwi'n teimlo fod y dewis o addysg Gymraeg wedi cael e gymryd oddi wrthon ni.'

“Mae wir yn sefyllfa drist iawn ac rydw i’n teimlo’n emosiynol iawn am y peth. Mae clywed ein merch yn siarad Cymraeg mor dda wedi dim ond 6 mis yn yr ysgol yn wych – mae’n sicr yn well na fy Nghymraeg i ac yn aml mae hi yn fy nghywiro! Rwy’n teimlo’n fam balch iawn!

“Hyd yma mae ein profiad o addysg Gymraeg wedi bod yn un positif iawn, ac rydym dal yn gobeithio y byddwn yn gallu defnyddio y Gymraeg yn ein bywydau.”

Diwedd

-
Addysg Gymraeg yn Abertawe: twf o 800 disgybl ymhen deng mlynedd - 19/3/19
-

Mae RhAG Abertawe’n llawenhau bod y Sir am godi dau adeilad newydd sbon i ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas. Bydd y naill ar gyfer Ysgol Tirdeunaw yn cael ei godi ar dir Ysgol Gyfun Bryn Tawe, gyda lle i 525 o blant, a’r llall, ar gyfer Ysgol Tan-y-lan, â lle i 420 o blant yn ardal y Clas.

Mae hyn yn dipyn o gynnydd, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg gan ryw 800 ymhen deng mlynedd. Bu RhAG yn pwyso ar y Sir am sawl blwyddyn, ac yn y pen draw, roedd hyn yn gyfaddawd.

Roedd RhAG am gadw Ysgol Tirdeunaw ar ei safle presennol, a phwysleiswyd hyn yn y cyfarfodydd tymhorol a gynhaliwyd gyda swyddogion y sir. Roedd Tirdeunaw wedi cychwyn gyda deunaw o blant, ac mewn ardal o dai cyngor. Roedd rhai o’r farn na fyddai byth yn llwyddo, ond tyfodd yn gyflym, gyda 450 o blant yn ei mynychu. Roedd hyn yn dod â’r Gymraeg yn ôl i ardal a’i collodd – ardal Treboeth, a’i chysylltiadau â Gwyrosydd. Collwyd y frwydr i gadw’r ysgol ar ei safle, gwaetha’r modd. Mae perygl yr defnyddir y safle ar gyfer addysg Saesneg maes o law.

Roedd yn amlwg bod angen safle newydd i Tan-y-lan, gan mai lle i 115 sydd yno yn awr. Doedd cynllun datblygu addysg Gymraeg y sir ddim yn ddigon uchelgeisiol, ond diolch i ymyrraeth Eluned Morgan a’r Llywodraeth a phwysau RhAG, argyhoeddwyd y sir bod angen cynyddu. Roedd RhAG o blaid cael ysgol Gymraeg yn agos i ganol Treforys, ar dir rhwng Treforys ac Ynysforgan. Gwahanol oedd barn y Sir. Bydd yr ysgol newydd ar y Clas, ardal tai cyngor, ymhellach o ganol Treforys. Dyw hyn ddim yn ddelfrydol, ond fel gyda phob ysgol Gymraeg arall a agorwyd yn Abertawe, bydd yn sicr o lwyddo.

Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd Ysgol Tan-y-lan yn mynd â thipyn o ddalgylch ysgol bresennol Tirdeunaw, a bydd ysgol Tirdeunaw yn mynd yn nes at Gwmbwrla a Threfansel, sydd ar hyn o bryd yn bell o gyrraedd hwylus i ysgol gynradd Gymraeg.

Roedd cynigion y Sir ar gyfer Ysgol Gymraeg Felindre’n siom. Bu RhAG ar hyd y blynyddoedd yn dadlau o blaid cadw’r ysgol, ac mewn ymgynghoriad ddiwedd 2018 dadleuodd RhAG bod angen cadw’r ysgol ar agor nes bod tai newydd yn cael eu codi yn y cyffiniau. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, cysylltodd RhAG â phob ysgol gynradd Gymraeg, ac chael gwybod nad oedd yn Ysgol Felindre ond 12 o blant.
Fodd bynnag, dim ond tri o’r plant oedd yn byw yn nalgylch Felindre. Roedd pump yn byw’n llawer nes i Ysgol Gymraeg Gellionnen, a’r gweddill o wahanol rannau o Abertawe. Ar ôl ymgynghori pellach, daethpwyd i’r casgliad nad oedd modd cyfiawnhau cadw ysgol ar agor i 3 o blant, a darparu addysg gynradd hyfyw a chyflawn i’r nifer yma. Mae’r nifer fach, mae’n debyg, yn adlewyrchu newid yn natur ddemograffig ac ieithyddol y pentre ar hyd y blynyddoedd, Cynigiodd RhAG bod yr ysgol yn cael ei chadw ar gyfer dibenion addysg Gymraeg, gan gynnwys fel canolfan addysg feithrin, hwyrddyfodiaid neu ganolfan addysg gyfeirio. Mae’n debyg y bydd y sir yn gwrthod y cynigion hyn.

Diwedd

-
YmatebiymgynghoriadAbertaweHydref2018.pdf
-

Mynd â’r Gymraeg i gymunedau amlieithog Caerdydd
16/3/19
-

Hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd fydd thema Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol RhAG a gynhelir Ddydd Sadwrn yma (16 Mawrth) yn Ysgol Hamadryad, Tre-biwt.

Bydd y mudiad hefyd yn lansio taflen i hyrwyddo addysg Gymraeg, sydd wedi ei chyfieithu i nifer o'r ieithoedd eraill a siaredir yn y brifddinas, sef Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwyleg, Somali ac Urdu.

Mae'r daflen yn cyd-fynd â ffilm fer a lansiwyd y llynedd, a oedd yn brosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch TAG a chwmni Orchard ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n anelu i gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg.

Mae cyfranogwyr y ffilm a'r daflen yn cynnwys rhieni Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a phennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

" Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â chartref newydd Ysgol Hamadryad, a agorwyd yn 2016 ond a symudodd i'w adeilad parhaol ym mis Ionawr eleni. Ysgol Hamadryad yw'r ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf aml-ethnig ac amlddiwylliannol Cymru. Roedd sefydlu’r ysgol yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn gam pwysig o ran sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn hwylus i bob cymuned yn y ddinas.

" Yn ganolog i’r ymgyrch wrth sefydlu'r ysgol, roedd y dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg. Ac felly mae'r taflenni hyn yn torri tir newydd o ran cyflwyno’r Gymraeg i gymunedau newydd a'i gosod mewn cyd-destun amlieithog fel sydd i'w gael yng Nghaerdydd. Gwyddom fod Catalwnia yn gwneud llawer i hyrwyddo’r Gatalaneg mewn ieithoedd eraill ac felly dyma ymdrech i ddechrau ar y gwaith pwysig hwnnw yma yng Nghymru.

" Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru. Hyderwn y bydd y taflenni a'r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn. Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.

" Mae siwrnai gyffrous o’n blaenau wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf ac mae lledaenu'r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”
Diwedd

Nodiadau

Siaradwyr gwadd y Cyfarfod Blynyddol yw Rhian Carbis, Pennaeth Ysgol Hamadryad, Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Mark Bowen, RhAG Bro Morgannwg.

Ffilm Welsh medium education: embrace it:
https://vimeo.com/245959643

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru

-
TAG leaflet: Welsh Medium Education - Embrace It!
-
CanolfannauHwyrddyfodiaidGwynedd_llythyrRhAG.pdf
-
Canolfannau Iaith Gwynedd - llythyr i Gynghorwyr Gwynedd
6/3/2019
-

gwahoddiad_cyfarfod_blynyddol_2018_map(3)-page-0.jpg

-
'Cyrraedd Cynudlleidfa Newydd' - 16/3/2019
-

Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol RhAG (2018) ar Ddydd Sadwrn 16 Mawrth 2019 yn Ysgol Hamadryad, Caerdydd CF10 5UY
Siaradwyr gwadd:
Rhian Carbis Pennaeth Ysgol Hamadryad
Mark Bowen RhAG Bro Morgannwg / Ymgyrch Ysgol Gymraeg y Glannau, Y Barri
Matt Spry Tiwtor-drefnydd Cymraeg i Ffoaduriaid, Prifysgol Caerdydd
Lawr-lwytho'r ffurflen archebu:

-
Cyfarfod Blynyddol 2018: Lawr-lwytho furflen archebu
-
Cwricwlwm newydd i Gymru: ergyd farwol i addysg Gymraeg?
-

Byddai gwireddu cynnig Llywodraeth Cymru i wneud dysgu’r Saesneg yn orfodol ym mhob darpariaeth meithrin ac ysgol a gyllidir yn ergyd farwol i addysg Gymraeg.

Dyma yw ymateb RhAG yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Byddai gweithredu'r cymal hwn yn gwbl ddinistriol i’r iaith, ac yn wir gallai arwain at dranc addysg Gymraeg. Mae'n syfrdanol bod y fath gynnig wedi ei gynnwys yn y Papur terfynol.

"Mae angen i’r Gweinidog ddeall - ac yn wir, fe ddylai fod yn ymwybodol eisoes - mai yn y dosbarthiadau meithrin a’r ysgol mae plant o deuluoedd di-Gymraeg yn cael y seiliau angenrheidiol yn y Gymraeg. Ym mhob cylch arall o’u bywyd y Saesneg sydd drech. Rhaid diogelu'r cylch hwn os ydym am sicrhau bod ein plant yn caffael yr iaith ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae ymchwil rhyngwladol sydd wedi'i hen sefydlu a'i gydnabod yn cefnogi hyn."

Yn ôl Tim Pearce, rhiant a symudodd o Loegr i fyw yn y Barri,

"O wybod pa mor gyffredin yw dwyieithrwydd ar draws y byd, pan symudon ni i fyw i Gymru, gwelson ni gyfle gwych mewn addysg Gymraeg. Efallai bod pob rhiant sydd heb brofiad o addysg Gymraeg yn gofidio ar y dechrau wrth weld y plant yn canolbwyntio ar eu Cymraeg yn unig. Nid oes angen pryderu, fodd bynnag. Maen nhw'n meistroli eu Saesneg yn nes ymlaen llawn cystal â'r plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, os nad yn well. Mae ein plant ni wedi llwyddo yn eu haddysg ac eu bywydau proffesiynol, a dwyieithrwydd yn gefn gwerthfawr iddynt."

Ychwanegodd Wyn Williams,

"Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes trochi ieithyddol a gwledydd eraill yn edrych arnom ni fel enghraifft o arfer dda. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y cynnig hwn yn milwrio yn erbyn holl bolisïau'r Llywodraeth i ehangu addysg Gymraeg dros y degawd diwethaf a byddai'n tanseilio'r nod cenedlaethol o gael Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, heb sôn am gyfraniad a thwf aruthrol y mudiad addysg Gymraeg dros y 70 mlynedd diwethaf. Byddai'n gamgymeriad difrifol pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis dilyn y llwybr hwn.

"Rhaid gwrthwynebu hyn ar bob cyfrif, a phwyswn yn daer ar y Gweinidog Addysg i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar y cynnig yn ddioed."

Diwedd

-
LLYTHYR AGORED: Diogelu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Pontypridd
-

Annwyl Olygydd

Diogelu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Pontypridd

Fel rhieni a chefnogwyr addysg cyfrwng Cymraeg, rydym yn pryderu y bydd y cynigion presennol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn arwain at ddirywiad yr iaith yng nghymunedau gogledd Pontypridd.

Y cynnig presennol yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn. Er bod adeiladau'r ysgol newydd yn hanfodol, byddai’r newid yn golygu bod plant o ardaloedd i'r gogledd o Bontypridd, gan gynnwys Ynysybwl, Glyncoch, Coedycwm, Trallwng a Cilfynydd, yn gorfod teithio dros ddwy filltir ymhellach, gan basio Pontypridd, i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Ynysybwl ei hun oddeutu chwe milltir o safle Heol-y-celyn.

Mae'n bwysig iawn bod plant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae teuluoedd sydd heb fynediad i geir wedi mynegi pryderon ynghylch sut y byddant yn cyrraedd clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol neu'n cyrraedd eu plant mewn argyfwng. Mae rhai rhieni yn dweud yn agored eu bod yn pryderu cymaint am y sefyllfa, fel na fyddant yn gallu dewis yr opsiwn cyfrwng Cymraeg am resymau ymarferol.

O ystyried targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'r pwyslais ar gynyddu mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a chynradd cyfrwng Cymraeg, credwn fod angen osgoi'r opsiwn presennol. Gan fod y cynlluniau ar gyfer safle Heol-y-Celyn yn dal yn y cyfnod ffurfiannol, rydym yn annog y Cyngor i ystyried o ddifrif pa opsiynau eraill sy’n bosib.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor yn datgan mai’r bwriad yw creu 6,054 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol yn y sir erbyn 2021. Sut y bydd amddifadu cymunedau presennol ym Mhontypridd o ysgol cyfrwng Cymraeg gyfagos yn helpu i gyflawni'r targed hwn?

Mae rhieni RhCT wedi ymladd yn galed i sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Enghraifft bwysig oedd y frwydr i gadw Ysol Pont Sion Norton ar agor ac i gynyddu nifer y lleoedd yn yr 1980au, cymaint oedd y galw. Mae'r ysbryd hwnnw yn fyw ac yn iach hyd heddiw. Ymlaen!

Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg Leol yng Ngogledd Pontypridd' a RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) Rhondda Cynon Taf

-
Dileu Cymraeg Ail Iaith: heb gyllid digonol, ni fydd modd cyrraedd y nod
-

Mae RhAG wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei ddileu, ond yn galw am drawsnewid y drefn bresennol o gyllido hyfforddiant i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

" Mae cyhoeddiad y Gweinidog yn arwyddocaol, ond y gwir amdani yw fod angen chwistrelliad sylweddol o gyllid i hyfforddi'r athrawon a'r gweithlu ehangach er mwyn gwireddu'r polisi hwn.

" Does dim cynllun cydlynol ar hyn o bryd i hyfforddi athrawon newydd. Mae angen strategaeth hir dymor ar fyrder, fydd yn amlinellu cynllun gweithredu ac yn gosod targedau tymor byr a chanolig er mwyn cynhyrchu’r gweithlu sydd ei angen. Mae angen hefyd amserlen a strategaeth fanwl o ran cyflwyno'r newidiadau mewn ysgolion unigol.

" Ymhellach at hynny, mae'n rhaid sicrhau na fydd hyn yn arwain mewn unrhyw ffordd at danseilio neu wanychu ysgolion cyfrwng Cymraeg - yr unig fodel cydnabyddedig sy’n llwyddo i roi dwy iaith yn gyfartal i bawb. Dwyieithrwydd yw’r canlyniad a fynnwn: ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig yr amodau gorau i gyflawni hynny. Rhaid creu sefyllfa lle bydd nifer digonol o athrawon sy'n medru cyflwyno'r Gymraeg fel pwnc ynghyd â phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

" Felly rydym yn galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, er mwyn mynd ati o ddifrif i wireddu'r weledigaeth hon."

Diwedd

-
Ymgyrchwyr yn galw am warchod darpariaeth addysg Gymraeg yng ngogledd Pontypridd
-

Mae ymgyrchwyr sy’n cynrychioli rhieni ym Mhontypridd yn galw ar Gyngor Sir RhCT i ailystyried eu cynlluniau ar gyfer ad-drefnu addysg Gymraeg ym Mhontypridd.

Sefydlwyd grŵp 'Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg yng Ngogledd Pontypridd', yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghlwb y Bont yr wythnos diwethaf mewn ymateb i gynigion Cyngor RhCT i gau ysgolion Pont Siôn Norton a Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.

Dywedodd y rhiant a'r ymgyrchydd, Sian-Eleri Fudge, "Rydym yn brwydro dros addysg Gymraeg lleol i'n plant. Bydd y cynnig presennol yn amddifadu ardaloedd yng ngogledd Pontypridd, gan gynnwys cymunedau Ynysybwl, Glyncoch, Coedycwm, Trallwng a Chilfynydd, o gael addysg Gymraeg yn lleol. Mae’n bwysig iawn i ni fel rhieni bod ein plant yn derbyn addysg Gymraeg yn y gymuned lle maent yn byw.

"Rydym o'r farn y bydd y datblygiad hwn yn andwyol i addysg Gymraeg achos bydd mwy o rieni’n dewis addysg Saesneg yn y dyfodol am y rheswm syml, y bydd yn rhaid i’r plant deithio mor bell. Dyw hynny ddim yn dderbyniol o gwbl, yn enwedig nawr o gofio am darged Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Rydym yn erfyn ar y Cyngor, er mwyn dyfodol yr iaith Gymraeg yng ngogledd Pontypridd, i ailystyried eu argymhelliad i adleoli plant gogledd y dref i Rydyfelin ac i edrych am leoliad arall ar gyfer ail ysgol Gymraeg newydd a fydd yn fwy addas ar gyfer plant presennol Pont Siôn Norton."

Ychwanegodd Helen Prosser ar ran RhAG RhCT, "Mae RhAG yn croesawu'r buddsoddiad hir ddisgwyliedig hwn mewn addysg Gymraeg, ond mae gennym bryderon am yr argymhellion presennol.

"Mae'r cynnydd mewn capasiti yn newydd cadarnhaol, ond eto mae’r un mor bwysig cael mynediad hygyrch a dirwystr at unrhyw ddarpariaeth newydd. Mae polisi Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais ar gynyddu mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a chynradd cyfrwng Cymraeg yng nghymuned y plentyn.

"Gan fod y cynlluniau ar gyfer safle Heol y Celyn yn dal i fod yn rhai ffurfiannol, rydym yn pwyso ar y Cyngor i ddwys ystyried y lleoliad mwyaf addas ar gyfer agor ysgol Gymraeg yn yr ardal. A oes unrhyw bosibilrwydd adeiladu mewn man mwy canolog i’r holl blant y bydd yr ysgol newydd yn ei gwasanaethu? Neu, a ellid gwario ychydig yn llai ar yr ysgol newydd ac ystyried agor dosbarth meithrin Cymraeg mewn ysgol arall fel bod ysgol Gymraeg arall yn tyfu’n organig mewn ardal arall ym Mhontypridd?

"Noda Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor fod bwriad i greu 6,054 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol o fewn y sir erbyn 2021. Dywedir hefyd fod Llywodraeth Cymru’n nodi pa mor hanfodol yw’r system addysg. Mae hwn yn darged clodwiw iawn ond nid ydym yn gweld sut y mae amddifadu cymunedau pwysig ym Mhontypridd o ysgol Gymraeg yn mynd i helpu gwireddu’r targed hwn."


Diwedd

Nodiadau
Ymgynghoriad: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Consultations/SchoolConsultations/Schoolconsultations.aspx
Tudalen Facebook 'Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg yng Ngogledd Pontypridd'
https://www.facebook.com/groups/269801827220655/
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru

-
maniffesto_Rhag_2015_Cymraeg_terfynol.pdf
-

Abertawe_YmatebiymgynghoriadHydref2018.pdf

-

Llythyr agored: mudiadau ac enwogion yn galw am Ysgol Gymraeg newydd i'r Barri

-

Mae mudiadau cenedlaethol ac enwogion o Fro Morgannwg wedi llofnodi llythyr agored sy'n galw ar Aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg "i fantesio ar gyfle euraid" o ran twf Addysg Gymraeg yn y Barri.

Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan nifer o enwogion sy'n cynnwys, Ian "H" Watkins o Steps, Caryl Parry Jones, Angharad Mair ac ystod eang o fudiadau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol a chenedlaethol.

Bydd adroddiad yn mynd gerbron cabinet Cyngor Bro Morgannwg yfory - 12 Rhagfyr - (sydd eisoes wedi ei ohirio ddwywaith), gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ym mis Ionawr ar yr ysgol newydd ddaw yn sgil datblygiad tai sylweddol yn ardal y Glannau yn y Barri.

Meddai Mark Bowen, rhiant o'r Barri sydd wedi arwain yr ymgyrch ac sy'n aelod o RhAG ym Mro Morgannwg,

" Mae Achos Prawf arwyddocaol o safbwynt targed 2050 ar fin cyrraedd croesffordd bwysig yn y Barri.

" Nid oes dwywaith y bydd cefnogwyr addysg cyfrwng Cymraeg ac yn wir Llywodraeth Cymru yn dysgu llawer o'r penderfyniad hwn. Ar hyn o bryd, mae llwyddiant y polisi yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol a dyna pam fod yr Achos Prawf hwn mor bwysig i gefnogwyr Addysg Gymraeg a'r iaith yn gyffredinol.

" Os y dewisir i glustnodi’r adeilad newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd cam mawr tuag at gyrraedd targed allweddol Llywodraeth Cymru ac I gynyddu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir gan 10%, ac yn ardal y Barri gan bron i 17%.

" Os na wneir hynny, bydd cyfle amhrisiadwy i godi proffil addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan orllewinol y Barri (gan gynnwys Ynys y Barri) yn cael ei golli. Yn yr un modd, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gagendor sylweddol rhwng polisïau cenedlaethol uchelgeisiol a gweithredu’r polisi hwnnw ar lawr gwlad.

" Bydd hynny’n canu clychau o ran diffyg hygrededd y polisi ac yn codi’r cwestiwn syflaenol: a yw cyrraedd Miliwn o siaradwyr wir yn flaenoriaeth gan lywodraeth leol a chanol? Bydd achos Ysgol y Glannau yn brawf pwysig o’r ymrwymiad hwnnw."
Diwedd


Nodiadau
Cefndir yr achos yw fod datblygiad tai sylweddol yn cael ei godi yn ardal y Glannau yn y Barri, a fydd yn y pen draw, yn darparu tua 2000 o gartrefi newydd. Mae tir wedi ei neilltuo ar gyfer ysgol gynradd newydd i'w agor ym mis Medi 2019. Yn y lle cyntaf, byddai hyn yn debygol o fod yn ysgol gyda 210 o leoedd, ond yn hollbwysig, gyda’r potensial i gynyddu i 420. Beth sy’n ansicr ar hyn o bryd yw cyfrwng iaith yr ysgol arfaethedig newydd.

LLYTHYR AGORED I AELODAU CABINET CYNGOR BRO MORGANNWG

Achos Prawf Arwyddocaol ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y Barri

Annwyl Aelodau Cabinet

Bydd polisi Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei brofi ym Mro Morgannwg yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rhagwelir y byddwch chi, fel aelodau'r cabinet, yn cymryd penderfyniad pwysig iawn yn fuan ar gyfrwng iaith yr ysgol newydd arfaethedig a fydd yn cael ei hadeiladu
fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn y Barri.

Yn wir, bydd hwn yn brawf pwysig, nid yn unig o sut y mae cynghorau lleol a chynllunwyr yn gweld eu rôl wrth weithredu polisi 2050, ond o ran dangos ymrwymiad gwirioneddol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Felly, rydym yn galw arnoch i fanteisio ar y cyfle euraid hwn ac i ddynodi'r ysgol newydd a ddaw yn sgil datblygiad y Glannau yn un cyfrwng Cymraeg.

Byddai hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed. Byddai hyn hefyd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at darged Llywodraeth Cymru 2030 i gynyddu lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg o draean.

Dylai’r iaith Gymraeg fod yn elfen canolog o ddatblygiadau tai newydd; mae hon yn eiliad dyngedfennol i’r Barri a bydd yn gosod cynsail arwyddocaol o ran datblygiadau trefol eraill ledled Cymru.

Rydym yn eich annog yn frwd i achub ar y cyfle hwn.


Caryl Parry Jones

Angharad Mair

Rhodri Owen

Ian “H” Watkins o Steps

Eleri Siôn

Eric Thomas, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Sant Baruc

Robert Evans, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Cronfa Glyndŵr

CYDAG – Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg

Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith

Cymdeithas Cymrodorion y Barri

Mudiad Meithrin

Lleucu Haf Wiliam, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Fro Morgannwg

Neil McEvoy AC, Canol De Cymru

Rhieni dros Addysg Gymraeg

-

RhAG yn gofyn am gyfraniad Llywodraeth i gynnal Canolfannau Hwyrddyfodiaid

-

Mae RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg – yn gofyn i’r Llywodraeth wneud cyfraniad arbennig i gynnal canolfannau hwyrddyfodiaid Gwynedd.

Mewn llythyr at Eluned Morgan, Y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder.

Mae Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ei chanolfannau i hwyrddyfodiaid. Mae posibilrwydd y bydd rhaid i’r Sir gwtogi ar y rhain yn sgil anawsterau ariannol.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, “ Gwynedd yw’r unig sir yng Nghymru lle mae disgwyl i bob plentyn cynradd fynd i ysgol Gymraeg leol. Mae dilyniant wedyn i’r sector uwchradd. Mae hyn yn golygu bod angen i bob mewnddyfodiad i’r sir dderbyn cwrs Cymraeg dwys cyn gallu ymdopi ag addysg yn yr ysgol leol.”

“ Yn achos mewnddyfodiaid i wledydd Prydain, mae’r Llywodraeth yn cynnig gwersi iaith Saesneg am ddim. Dylai hyn ddigwydd i fewnddyfodiaid i Gymru, ac yn arbennig i Wynedd, gyda gwersi Cymraeg yn cael eu darparu am ddim. "

“ Nid yw’n deg disgwyl i’r Sir wneud y gwaith ychwanegol yma heb dderbyn cymorth ariannol arbennig gan y Llywodraeth.”

“ Rydyn ni’n galw ar Wynedd i gadw’r ddarpariaeth wych sydd ganddynt i fewnddyfodiaid, ond wrth wneud hyn rydyn ni’n apelio i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ariannol arbennig iddynt fel na fydd y gwaith pwysig yma o dan fygythiad.”


Diwedd


Nodiadau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru

-
Ymateb i Cyngor Abertawe 19/10/2018
-
Rhaid ehangu rhaglen cyllid cyfalaf ar gyfer addysg Gymraeg 16-07-2018
-

GYDA’R Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Chaerdydd yr wythnos hon, mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi gosod her i Gyngor Caerdydd i sicrhau bod 1 o bob 5 o ddisgyblion y ddinas yn cael lle mewn dosbarthiadau Derbyn cyfrwng Cymraeg erbyn 2025.

Ar hyn o bryd mae bron 1 o bob 6 disgybl yn dechrau yn y Derbyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Meddai Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd,

ʺMae addysg Gymraeg wedi tyfu’n syfrdanol dros y 69 mlynedd ers agor yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Sloper Road gyda 19 plentyn. Yn 2016, derbyniwyd 747 plentyn i gyfanswm o 17 ysgol gynradd yn y brifddinas sy’n meddu ar 28 ffrwd rhyngddynt sy’n cyfateb i leoedd ar gyfer 840 disgybl. Yn barod mae’r sir yn cynllunio i agor 2 ffrwd ychwanegol cyn 2020, un yn ysgol Nant Caerau yn y gorllewin a’r llall yn ysgol Penypil yn y dwyrain. Ar ben hyn mae cais gerbron y Llywodraeth am gyfran o’r £30M i hyrwyddo agor ffrwd arall yng ngogledd-canol y ddinas.

Ond yn ôl Mr Jones, hyd yn oed pe bai 31 ffrwd ar gael yn gynnar yn y ddegawd nesaf, ni fyddai’r ddarpariaeth yn ddigonol i gwrdd â’r galw cynyddol am addysg Gymraeg gyda 930 lle ar gael bob blwyddyn. Ni fyddai hynny’n cwrdd â’r twf blynyddol, sydd rhwng 5 a 6%, heb sôn am gynlluniau’r cyngor i ychwanegu 80,000 at boblogaeth y ddinas erbyn 2026.
Bydd y tai newydd yn bennaf (1) yn yr ardal i’r gorllewin o Radur a elwir Plasdŵr, (2) ar safle hen felin papur i’r de o Barc Fictoria a elwir Melin Elai (3) ar safleoedd presennol y BBC yn Llandaf (4) ar dir amaethyddol rhwng Llysfaen a Phontprennau a (5) fel estyniad i Fro Eirwg Newydd i gyfeiriad Corsdir Gwynllwg.

Ychwanegodd Mr Jones, ʺMae modd dadlau y bydd helaethu Nant Caerau a Phenypil ar safleoedd newydd yn darparu ar gyfer yr ail a’r olaf o’r 5 ardal datblygu newydd, ond yn sicr bydd angen ysgolion newydd ym Mhlasdŵr ac yn y bwlch rhwng Llysfaen a Phontprennau ac mae’r sir yn derbyn hyn. Ond hyd yma maent yn ddall i’r angen i helaethu Ysgol Pencae ar safle arall i dderbyn o leiaf 2 ffrwd yn lle’r un presennol sydd yn un o’r 5 ysgol orlawn yn ardal gogledd-canol y ddinas.

ʺ Pe bai 4 neu 5 ffrwd ychwanegol yn dod yn sgîl y twf yn y boblogaeth fe fyddai hynny’n golygu derbyn tua 1100 disgybl y flwyddyn ond yn bur debyg y byddai’r cohort cyfan (Saesneg a Chymraeg) yn tyfu hefyd a’r ganran Cymraeg yn aros tua 20% o’r cyfan onibai am dwf hefyd yn y ddarpariaeth yn y ddinas fel y mae hi ar hyn o bryd. Bydd rhaid cadw golwg ar ble mae’r twf yn hawlio’r ddarpariaeth ychwanegol yma.”

-

Ysgolion dwyieithog: rhaid peidio syrthio i’r fagl

-

Mewn ymateb i sylwadau gan Leanne Wood mae RhAG wedi galw am eglurder ynglŷn â’i galwad am fwy o ysgolion ‘dwyieithog’.

Mae sawl ffigwr blaenllaw wedi gwneud datganiadau yn ddiweddar ynghylch ysgolion dwyieithog, sy’n cymylu’r drafodaeth yn ôl RhAG.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

“Camarweiniol yw sôn am ysgolion dwyieithog, mae’n fodel ieithyddol sydd ar y cyfan wedi profi’n aflwyddiannus mewn rhannau helaeth o Gymru e.e. Sir Gâr, Powys.

“Nid yw ysgolion dwyieithog yn nod realistig wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr: 1) mae’r cyraeddiadau ieithyddol yn eilradd 2) nid oes cynlluniau digonol i hyfforddi staff. Gwell cyrraedd 750,00 o siaradwyr rhugl trwy ysgolion Cymraeg na chael 500,000 rhugl a 500,000 heb sgiliau iaith digonol.

“Mae angen symud pob ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol ond ni ddaw unrhyw newid mawr o safbwynt hynny yn y 10 mlynedd nesaf, yn bennaf oherwydd diffyg gweithlu.

“Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r unig opsiwn sy’n llwyddo i roi dwy iaith i bawb. Dwyieithrwydd yw’r canlyniad a fynnwn ac nid y model o addysgu: ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig yr amodau gorau i gyflawni hynny.

“Mae hwn yn egwyddor sydd wedi’i dderbyn yn rhyngwladol gan gynnwys Llywodraeth Cymru.”

Diwedd

-
Angen i Lywodraeth Cymru ehangu eu rhaglen cyllid cyfalaf
-

MAE angen i Lywodraeth Cymru ehangu’n sylweddol eu rhaglen cyllid cyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Dyma yw galwad Rhieni dros Addysg Gymraeg, wedi i gais am wybodaeth gan y mudiad ddatgelu bod awdurdodau lleol wedi cyflwyno ceisiadau sydd dair gwaith yn uwch na’r swm sydd ar gael.

Ar 8 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn o gyllid cyfalaf, yn benodol i gefnogi'r buddsoddiad mewn addysg Gymraeg ledled Cymru.

Nod y cyllid ychwanegol hwn yw sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i fwy o ddisgyblion ledled Cymru, a thrwy hynny gyfrannu at y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd disgwyl i awdurdodau lleol feddwl yn greadigol am sut i ddefnyddio'r cyllid i wella'r ddarpariaeth Gymraeg.

Mae gwerth £103m o geisiadau wedi dod i law oddi wrth bob un o'r 22 awdurdod lleol, sy’n amrywio o £0.64m gan Ynys Môn i £14.03m gan CNPT.

Mae disgwyl penderfyniad am y ceisiadau yn yr hydref.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Dymuna RhAG longyfarch y siroedd am ymateb yn gadarnhaol i’r cyfle i ymgeisio am gyllid i gynyddu’r cyfleoedd i fwy o ddisgyblion dderbyn addysg Gymraeg.

“Mae’n debyg bod yr ymateb wedi bod mor uchel oherwydd nad oedd rhaid canfod arian cyfatebol, rhwystr sydd wedi llesteirio sawl sir rhag gweithredu cyn hyn.

“Mae’r galw yn gwbl ddiamheuol, ac yn profi bod yr ewyllys i weithredu yn bodoli os oes digon o gefnogaeth ar gael.

“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith ac mae sicrhau cyllid digonol i wireddu hynny yn gwbl allweddol.

“Galwn ar y Llywodraeth felly i gynyddu’r cyllid sydd ar gael er mwyn galluogi’r siroedd i wireddu’r holl brosiectau cyffrous sydd wedi eu cyflwyno.”

-
Llythyr at rieni Caerdydd gan RhAG - Medi 2018









-
Buddugoliaeth i Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint 19-06-2018
-

MAE RhAG wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir y Fflint heddiw i beidio â bwrw ymlaen gyda chynnig i ddiddymu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Daw hyn wedi i’r mudiad lythyru ag Arweinydd y Cyngor a holl aelodau’r cabinet i fynegi pryderon difrifol am oblygiadau unrhyw gamau o’r fath.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Mae RhAG yn croesawu’r newyddion ac yn llongyfarch cabinet Cyngor Sir y Fflint ar benderfyniad doeth a synhwyrol. Mae canlyniad heddiw yn gydnabyddiaeth y byddai wedi bod yn gam gwag i fwrw ymlaen gyda chynnig a oedd yn gwrthdaro’n glir gyda deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ac yn gwbl andwyol i’r Gymraeg ym mhob ffordd posibl.

“Nodwn bod bwriad o hyd i ystyried newidiadau ar gyfer cludiant i ddisgyblion mewn addysg ôl-16 a phwyswn ar y cyngor i gofio eu cyfrifoldeb i’r Gymraeg yn y cyswllt hwnnw.

“Mae gan Sir y Fflint le arbennig yn hanes cynnar twf addysg Gymraeg, ond mae gwaith mawr eto i’w wneud er mwyn sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o’r Sir. Galwn ar y cyngor i fynd ati’n ddiymdroi i ddangos bod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth o ddifrif iddynt.”

-

Llythyr RhAG: Cynnig i ddiddymu cludiant am ddim

-

RhAG yn galw ar Gyngor Sir y Fflint i wrthod cynnig i ddiddymu cludiant am ddim i Addysg Gymraeg 15-06-2018

-

Mae RhAG wedi galw ar Gyngor Sir y Fflint i wrthod cynigion i ddiddymu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Mewn llythyr at Arweinydd y Cyngor mae’r mudiad wedi mynegi pryderon difrifol am oblygiadau unrhyw gamau o’r fath.

Daw hyn mewn ymateb i adroddiad sy’n mynd gerbron cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth nesaf fydd yn cyflwyno cynigion i diddymu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion ôl-16 ac i ddisgyblion y mae eu rhieni’n derbyn budd-daliadau.

Amcangyfrif bod y gost o gludo disgyblion i ysgolion cyfrwng Cymraeg oddeutu £490,000 y flwyddyn gyda 720 o ddisgyblion ar hyn o bryd yn derbyn y gwasanaeth.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Mae RhAG yn galw ar y Cyngor i roi o’r neilltu unrhyw fwriad i ddileu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Siom o’r mwyaf yw bod cynigion o’r fath hyd yn oed yn cael eu hystyried, ni ddylem fod yn gorfod amlygu’r peryglon: dylent fod yn ddigon hysbys i bawb.

"Rhaid i Awdurdodau Lleol berchnogi’r cyfrifoldeb o sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch ac mor hwylus â phosib i bawb sy’n dymuno manteisio arni. Mae darparu cludiant am ddim yn allweddol i sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg, gan fod y pellteroedd y mae’n rhaid i ddisgyblion deithio gymaint yn fwy. Mae cludiant am ddim yn unioni’r cam hwnnw.

"Mae’r cynnig nid yn unig yn milwrio yn erbyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg, ond hefyd yn tanseilio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir, sy’n gosod cyfrifoldeb statudol i gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg.

"Mae’r cynnig yn andwyol i’r Gymraeg ym mhob ffordd a dylid ei dynnu yn ôl ar unwaith."

Dywedodd Nick Thomas, Cadeirydd mudiad SYFFLAG (Mudiad Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg),

"Rydym yn hynod siomedig gyda’r penderfyniad ac yn ei weld fel ergyd farwol i rai o ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir. Gall hyn gau rhai o'r ysgolion dwi'n meddwl.

"Ymddengys mai Cyngor Sir y Fflint yw’r unig sir yng Nghymru nad yw’n ystyried mai’r "ysgol addas agosaf" yw’r ysgol Gymraeg agosaf os yw rhieni’n dewis addysg Gymraeg. Pa neges y mae hynny’n ei roi i drigolion y Sir ac i weddill Cymru?

"Nid yw’r cyngor wedi gwneud llawer dros y degawdau diwethaf i hybu’r Gymraeg yn Sir y Fflint ac mae’r cynnig hwn yn atgyfnerthu’r methiant hwnnw.

"Tra bod siroedd eraill yn mynd ati i agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yma yn Sir y Fflint – sir a fu unwaith mor arloesol o ran twf addysg Gymraeg - mae’r Cyngor yn trafod cynigion o’r fath.

"Mae angen iddynt ailystyried a mynd ati’n ddiymdroi i weithredu yn fwy rhagweithiol a chadarnhaol o blaid twf addysg Gymraeg yn y Sir."

-
Gwaddol yr Eisteddfod: twf Addysg Gymraeg ym Mhowys
-

MAE ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yr wythnos hon yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym Mhowys.

Dyma yw galwad RhAG wrth bwyso ar y Cyngor i gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r Sir.

Mae arwyddion cadarnhaol eisoes ar droed gydag agor Ysgol Gynradd Y Trallwng Medi 2017 yn garreg filltir hanesyddol a llwyddiant digamsyniol Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd, yn brawf o’r galw cynyddol.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

“Mae angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o’r sir. Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni’r cam hwnnw.

“Bydd ehangu’r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri’r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd a chyfrannu at y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.

“Mawr obeithiwn y gwelwn sawl datblygiad pwysig yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Llandrindod, symud Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ar hyd y continwwm ieithyddol trwy gael gwared ar y ffrwd cyfrwng Saesneg a sefydlu ysgol uwchradd 2A yng ngogledd y sir.

“Mae’r galw a’r angen yn glir: rhaid cymryd camau pendant i sefydlu’r ddarpariaeth fydd yn bodloni hynny.

“Galwn felly ar y Cyngor i gofleidio gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer twf Addysg Gymraeg ac ar gyfer dyfodol hirdymor yr iaith Gymraeg yn y Sir.”

-
Cyngerdd i godi arian at ymgyrch ysgol Gymraeg Trefynwy 19-05-2018






-

Ysgolion cynradd Caerdydd 02-05-2018

-

Mae gwybodaeth am fynediad i ysgolion cynradd Caerdydd fis Medi nesaf ar gael sydd braidd yn siomedig unwaith eto. Mae cyfanswm o 771 plentyn wedi ceisio lle eleni o gymharu ac 847 y llynnedd a 714 wedi cael lle o gymharu â 718 y ffigwr terfynnol Hydref diwethaf. Felly am yr ail flwyddyn mae diffyg twf a nifer llai wedi cael lle o gymharu â chyfanswm o 747 yn 2016.

Mae 8 ysgol yn llawn (10 y llynedd) sef Y Wern, Treganna, Melin Gruffydd, Mynnydd Bychan, Pencae, Nant Caerau a Penypil gyda Glan Ceubal yn llawn am y tro cyntaf. Mae’r grwp yng nghanol gogledd Caerdydd sef Y Wern (13 yn methu), Melin Gruffydd (6), Mynydd Bychan (11) a Pencae (7) o dan llai o bwysau gyda 37 wedi’u gwrthod eleni yn lle’r 66 a wrthodwyd y llynedd, ond mae’n amlwg bod y galw yn yr ardal llydan hwn yn parhau yn broblem nad oes ond un ffordd o’i ddatrys sef darparu rhagor o le rhywle cyfleus sy’n golygu ar safle arall am nad oes modd ehangu’r un o’r 4 ysgol ar eu safleoedd presennol. Dyw problemau’r 4 ysgol arall ddim mor dwys: mae cynlluniau ar y gweill i ehangu Nant Caerau (5 yn methu) a Penypil (1). Mae 13 cais drosben y lle sy ar gael yn Nhreganna (o gymharu â diffyg o 24 llynedd) ond mae lle ar gael yn ysgolion Pwll Coch (11 ar gael) a Hamadryad (31) sy’n weddol agos. Mae’n werth nodi bod y galw yn y pedwar ward (Canton, Glanyrafon, Grangetown a’r Bae) nawr wedi cyrraedd 181 sy’n dechrau agosau at y cyfanswm o le sy ar gael rhwng y 3 ysgol (210) ac yn cyfiawnhau’r ymgyrch am ysgol arall yn yr ardal. Fe fyddai’n synhwyrol i dderbyn yr un plentyn a fethodd gael lle yn Ysgol Glan Ceubal yno am fod lleoedd gwag niferus yn yr Ysgol os nid yn y dosbarth.

O’r 9 ysgol sydd â lle gwag mae 4 yn bur agos at bod yn llawn: Y Creigiau (1 lle), Bro Eirwg (5), Gwaelod-y-garth (3) a’r Berllan Deg (4). Mae 2 o’r 4 arall yn ysgolion ar eu prifiant fydd yn symud i adeiladau newydd Ionawr 2019 sef Glanmorfa (34 plentyn/60 lle) a Hamadryad (29 plentyn/60 lle). Mae Penygroes (12/30) a sefydlwyd yn 2007 ond a dderbyniodd ddisgyblion am y tro cyntaf yn 2009 ddim erioed wedi derbyn mwy na hanner y plant posibl. Efallai bydd plant o ddalgylch y Wern yn ystyried ceisio yma. Coed-y-gof yw’r un olaf i’w hystyried lle mae 33 wedi ceisio’r 60 lle, ond yn aml mae’r ysgol hon yn llenwi yn ystod yr haf.

Rwy'n mawr obeithio y bydd canran sylweddol o’r 57 sydd wedi methu â chael lle ar y cynnig cyntaf yn derbyn ail ddewis nepell i ffwrdd ac yn ychwanegu o leiaf 40 at y cyfanswm i adfer twf yn y nifer sy’n dechrau addysg Gymraeg yn y ddinas eleni.

MICHAEL JONES

-

Y naw sir sy’n siomi 16-04-2018

-

Mae cwymp wedi bod yng nghanran y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg mewn naw sir yng Nghymru - dyna honiad yr ystadegydd Hywel Jones.

Mae gwefan Hywel Jones - Statiaith - yn nodi’r cwymp yng nghanrannau’r disgyblion 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg, rhwng 2012 a 2017. Dros Gymru gyfan bu twf o 22% i 22.5%, ond methwyd â chyrraedd targed y Llywodraeth o 25%.

Yr hyn sy’n bryderus yw bod gostyngiad wedi bod yn y ganran mewn naw sir yn ystod y cyfnod hwnnw, sef: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Blaenau Gwent.

Bu’r twf mwyaf cyson yn Abertawe a Chaerdydd, gyda thwf hefyd ym Mro Morgannwg, Wrecsam a Thorfaen.

Nid yw cwymp yn y ganran, fodd bynnag, bob amser yn golygu bod llai o ddisgyblion yn derbyn addysg Gymraeg ym mhob sir. Mae nifer y disgyblion 5 - 10 oed mewn ysgolion cynradd yng Nghymru wedi cynyddu’n gyson ers 2011, o ryw 195,00 i 210,437 yn Ionawr 2017 (Canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion, 2017, Llywodraeth Cymru). Yn cydredeg â hyn bu cynnydd yn nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gyrraedd 105,845 yn 2017 (104,959 yn 2016).

Mae’r twf mewn disgyblion i’w briodoli i gynnydd yn y gyfradd genedigaethau yn bennaf, a hefyd peth mewnfudo.
Yr hyn sy’n bryderus yw nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi paratoi mewn da bryd ar gyfer y twf yn y boblogaeth. Mae ysgolion Saesneg, mewn sawl man, yn gorlenwi, fel y bu’n digwydd yn gyson gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg. Canlyniad hyn yw nad oes cyflenwad o hen adeiladau ar gael ar gyfer eu trosi’n ysgolion Gymraeg.

Medd Wyn Williams, cadeirydd RhAG, “Mae’n glir bod angen cynllunio brys i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg. Dim ond un ysgol Gymraeg sydd ym Mlaenau Gwent, er enghraifft. Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith, ond does dim arwydd ar hyn o bryd bod hyn i ddigwydd.”

Ychwanegodd Wynn Williams, “Rydyn ni’n deall bod blaenoriaeth i ysgolion Cymraeg yn rownd nesaf cyllido ysgolion, ond fydd hyn ddim yn rhoi’r twf cyflym angenrheidiol. Fydd dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg ddim yn llwyddiannus chwaith, heb fod y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant.”
“Mae angen i ni beidio â thwyllo’n hunain y bydd geiriau teg y Llywodraeth am y Gymraeg - a diolch amdanynt - yn dwyn ffrwyth heb fod gweithredu radical yn digwydd ar lawr gwlad.”

-

Datblygwyr tai yn anwybyddu Addysg Gymraeg 16-04-2018

-

MAE ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu hanwybyddu gan ddatblygwyr wrth iddynt farchnata ystadau tai newydd ledled y wlad.

Dyma yw canfyddiad mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wrth feirniadu cwmnïau adeiladu sy’n rhestru ysgolion cyfrwng Saesneg ar eu gwefannau ond heb unrhyw gyfeiriad at ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae’r mudiad wedi adnabod methiant i wneud hynny gan gwmnïau Bellway, Redrow, Persimmon a Taylor Wimpey, sy’n hyrwyddo tai newydd yn RhCT, Bro Morgannwg, Torfaen a Chasnewydd ymysg ardaloedd eraill.

Meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg,
“Rydw i’n cofio ymweld â swyddfa Taylor Wimpey yn y Rhŵs i ofyn am fwy o fanylion am y datblygiad yno. Yn ôl eu taflen, does dim opsiwn ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg i deuluoedd, er gwaetha’r ffaith bod y datblygiad newydd yn nalgylch Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr. Yn ôl gwefan Redrow Homes, y dewis cyfrwng Cymraeg agosaf i deuluoedd sy’n symud i fyw i ddatblygiad yn ardal y Bontfaen yw Caerdydd! Ac nid yw Bellway ychwaith yn ymwybodol o ddalgylch ysgolion cyfrwng Cymraeg i deuluoedd sy’n symud i dai newydd yn ardal Gwenfô a Chroes Cwrlwys.”
Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
“Does dim modd cyfiawnhau difaterwch y cwmnïau hyn at y Gymraeg. Nid yw’n dderbyniol rhoi camargaff mai addysg cyfrwng Saesneg yw’r unig ddewis sydd ar gael i deuluoedd sy’n ymgartrefu yn yr ystadau tai newydd hyn, Mae’n anorfod bod canran uchel yn mewnfudo i Gymru, a mwy na thebyg, yn gwbl anymwybodol bod ganddynt ddewis arall o ran addysg eu plant. Mae’r cwmniau dan sylw yn esgeuluso eu cyfrifoldebau ac yn amlwg yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol.

“Mae hyn yn codi cwestiynau mawr o ran pa gyfarwyddyd y mae llywodraeth leol a chanol yn ei roi i ddatblygwyr o ran hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Pan gaiff addysg ei hystyried yng nghyd-destun cynllunio ystadau tai newydd, mae angen i awdurdodau lleol roi ystyriaethau ieithyddol yn ganolog yn y cynlluniau hynny. Dylent sicrhau bod datblygu trefol yn rhoi cyfle i gynyddu addysg Gymraeg.

“Rydym yn galw ar y cwmnïau hyn felly i edrych yn fanwl ar eu polisïau mewn perthynas â’r Gymraeg ac i ddechrau hynny trwy nodi ysgolion cyfrwng Cymraeg ar eu gwefannau. Wrth gynllunio at y miliwn, mae angen i’r Llywodraeth hefyd gyflwyno canllawiau sy’n caniatáu i rieni sy’n ymgartrefu yn yr ardaloedd hyn ddewis addysg Gymraeg yn hwylus.”