Newyddion

-

Abertawe_YmatebiymgynghoriadHydref2018.pdf

-

Llythyr agored: mudiadau ac enwogion yn galw am Ysgol Gymraeg newydd i'r Barri

-

Mae mudiadau cenedlaethol ac enwogion o Fro Morgannwg wedi llofnodi llythyr agored sy'n galw ar Aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg "i fantesio ar gyfle euraid" o ran twf Addysg Gymraeg yn y Barri.

Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan nifer o enwogion sy'n cynnwys, Ian "H" Watkins o Steps, Caryl Parry Jones, Angharad Mair ac ystod eang o fudiadau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol a chenedlaethol.

Bydd adroddiad yn mynd gerbron cabinet Cyngor Bro Morgannwg yfory - 12 Rhagfyr - (sydd eisoes wedi ei ohirio ddwywaith), gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ym mis Ionawr ar yr ysgol newydd ddaw yn sgil datblygiad tai sylweddol yn ardal y Glannau yn y Barri.

Meddai Mark Bowen, rhiant o'r Barri sydd wedi arwain yr ymgyrch ac sy'n aelod o RhAG ym Mro Morgannwg,

" Mae Achos Prawf arwyddocaol o safbwynt targed 2050 ar fin cyrraedd croesffordd bwysig yn y Barri.

" Nid oes dwywaith y bydd cefnogwyr addysg cyfrwng Cymraeg ac yn wir Llywodraeth Cymru yn dysgu llawer o'r penderfyniad hwn. Ar hyn o bryd, mae llwyddiant y polisi yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol a dyna pam fod yr Achos Prawf hwn mor bwysig i gefnogwyr Addysg Gymraeg a'r iaith yn gyffredinol.

" Os y dewisir i glustnodi’r adeilad newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd cam mawr tuag at gyrraedd targed allweddol Llywodraeth Cymru ac I gynyddu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir gan 10%, ac yn ardal y Barri gan bron i 17%.

" Os na wneir hynny, bydd cyfle amhrisiadwy i godi proffil addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan orllewinol y Barri (gan gynnwys Ynys y Barri) yn cael ei golli. Yn yr un modd, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gagendor sylweddol rhwng polisïau cenedlaethol uchelgeisiol a gweithredu’r polisi hwnnw ar lawr gwlad.

" Bydd hynny’n canu clychau o ran diffyg hygrededd y polisi ac yn codi’r cwestiwn syflaenol: a yw cyrraedd Miliwn o siaradwyr wir yn flaenoriaeth gan lywodraeth leol a chanol? Bydd achos Ysgol y Glannau yn brawf pwysig o’r ymrwymiad hwnnw."
Diwedd


Nodiadau
Cefndir yr achos yw fod datblygiad tai sylweddol yn cael ei godi yn ardal y Glannau yn y Barri, a fydd yn y pen draw, yn darparu tua 2000 o gartrefi newydd. Mae tir wedi ei neilltuo ar gyfer ysgol gynradd newydd i'w agor ym mis Medi 2019. Yn y lle cyntaf, byddai hyn yn debygol o fod yn ysgol gyda 210 o leoedd, ond yn hollbwysig, gyda’r potensial i gynyddu i 420. Beth sy’n ansicr ar hyn o bryd yw cyfrwng iaith yr ysgol arfaethedig newydd.

LLYTHYR AGORED I AELODAU CABINET CYNGOR BRO MORGANNWG

Achos Prawf Arwyddocaol ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y Barri

Annwyl Aelodau Cabinet

Bydd polisi Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei brofi ym Mro Morgannwg yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rhagwelir y byddwch chi, fel aelodau'r cabinet, yn cymryd penderfyniad pwysig iawn yn fuan ar gyfrwng iaith yr ysgol newydd arfaethedig a fydd yn cael ei hadeiladu
fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn y Barri.

Yn wir, bydd hwn yn brawf pwysig, nid yn unig o sut y mae cynghorau lleol a chynllunwyr yn gweld eu rôl wrth weithredu polisi 2050, ond o ran dangos ymrwymiad gwirioneddol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Felly, rydym yn galw arnoch i fanteisio ar y cyfle euraid hwn ac i ddynodi'r ysgol newydd a ddaw yn sgil datblygiad y Glannau yn un cyfrwng Cymraeg.

Byddai hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed. Byddai hyn hefyd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at darged Llywodraeth Cymru 2030 i gynyddu lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg o draean.

Dylai’r iaith Gymraeg fod yn elfen canolog o ddatblygiadau tai newydd; mae hon yn eiliad dyngedfennol i’r Barri a bydd yn gosod cynsail arwyddocaol o ran datblygiadau trefol eraill ledled Cymru.

Rydym yn eich annog yn frwd i achub ar y cyfle hwn.


Caryl Parry Jones

Angharad Mair

Rhodri Owen

Ian “H” Watkins o Steps

Eleri Siôn

Eric Thomas, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Sant Baruc

Robert Evans, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Cronfa Glyndŵr

CYDAG – Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg

Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith

Cymdeithas Cymrodorion y Barri

Mudiad Meithrin

Lleucu Haf Wiliam, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Fro Morgannwg

Neil McEvoy AC, Canol De Cymru

Rhieni dros Addysg Gymraeg

-

RhAG yn gofyn am gyfraniad Llywodraeth i gynnal Canolfannau Hwyrddyfodiaid

-

Mae RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg – yn gofyn i’r Llywodraeth wneud cyfraniad arbennig i gynnal canolfannau hwyrddyfodiaid Gwynedd.

Mewn llythyr at Eluned Morgan, Y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder.

Mae Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ei chanolfannau i hwyrddyfodiaid. Mae posibilrwydd y bydd rhaid i’r Sir gwtogi ar y rhain yn sgil anawsterau ariannol.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, “ Gwynedd yw’r unig sir yng Nghymru lle mae disgwyl i bob plentyn cynradd fynd i ysgol Gymraeg leol. Mae dilyniant wedyn i’r sector uwchradd. Mae hyn yn golygu bod angen i bob mewnddyfodiad i’r sir dderbyn cwrs Cymraeg dwys cyn gallu ymdopi ag addysg yn yr ysgol leol.”

“ Yn achos mewnddyfodiaid i wledydd Prydain, mae’r Llywodraeth yn cynnig gwersi iaith Saesneg am ddim. Dylai hyn ddigwydd i fewnddyfodiaid i Gymru, ac yn arbennig i Wynedd, gyda gwersi Cymraeg yn cael eu darparu am ddim. "

“ Nid yw’n deg disgwyl i’r Sir wneud y gwaith ychwanegol yma heb dderbyn cymorth ariannol arbennig gan y Llywodraeth.”

“ Rydyn ni’n galw ar Wynedd i gadw’r ddarpariaeth wych sydd ganddynt i fewnddyfodiaid, ond wrth wneud hyn rydyn ni’n apelio i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ariannol arbennig iddynt fel na fydd y gwaith pwysig yma o dan fygythiad.”


Diwedd


Nodiadau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru

-
Ymateb i Cyngor Abertawe 19/10/2018
-
Rhaid ehangu rhaglen cyllid cyfalaf ar gyfer addysg Gymraeg 16-07-2018
-

GYDA’R Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Chaerdydd yr wythnos hon, mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi gosod her i Gyngor Caerdydd i sicrhau bod 1 o bob 5 o ddisgyblion y ddinas yn cael lle mewn dosbarthiadau Derbyn cyfrwng Cymraeg erbyn 2025.

Ar hyn o bryd mae bron 1 o bob 6 disgybl yn dechrau yn y Derbyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Meddai Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd,

ʺMae addysg Gymraeg wedi tyfu’n syfrdanol dros y 69 mlynedd ers agor yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Sloper Road gyda 19 plentyn. Yn 2016, derbyniwyd 747 plentyn i gyfanswm o 17 ysgol gynradd yn y brifddinas sy’n meddu ar 28 ffrwd rhyngddynt sy’n cyfateb i leoedd ar gyfer 840 disgybl. Yn barod mae’r sir yn cynllunio i agor 2 ffrwd ychwanegol cyn 2020, un yn ysgol Nant Caerau yn y gorllewin a’r llall yn ysgol Penypil yn y dwyrain. Ar ben hyn mae cais gerbron y Llywodraeth am gyfran o’r £30M i hyrwyddo agor ffrwd arall yng ngogledd-canol y ddinas.

Ond yn ôl Mr Jones, hyd yn oed pe bai 31 ffrwd ar gael yn gynnar yn y ddegawd nesaf, ni fyddai’r ddarpariaeth yn ddigonol i gwrdd â’r galw cynyddol am addysg Gymraeg gyda 930 lle ar gael bob blwyddyn. Ni fyddai hynny’n cwrdd â’r twf blynyddol, sydd rhwng 5 a 6%, heb sôn am gynlluniau’r cyngor i ychwanegu 80,000 at boblogaeth y ddinas erbyn 2026.
Bydd y tai newydd yn bennaf (1) yn yr ardal i’r gorllewin o Radur a elwir Plasdŵr, (2) ar safle hen felin papur i’r de o Barc Fictoria a elwir Melin Elai (3) ar safleoedd presennol y BBC yn Llandaf (4) ar dir amaethyddol rhwng Llysfaen a Phontprennau a (5) fel estyniad i Fro Eirwg Newydd i gyfeiriad Corsdir Gwynllwg.

Ychwanegodd Mr Jones, ʺMae modd dadlau y bydd helaethu Nant Caerau a Phenypil ar safleoedd newydd yn darparu ar gyfer yr ail a’r olaf o’r 5 ardal datblygu newydd, ond yn sicr bydd angen ysgolion newydd ym Mhlasdŵr ac yn y bwlch rhwng Llysfaen a Phontprennau ac mae’r sir yn derbyn hyn. Ond hyd yma maent yn ddall i’r angen i helaethu Ysgol Pencae ar safle arall i dderbyn o leiaf 2 ffrwd yn lle’r un presennol sydd yn un o’r 5 ysgol orlawn yn ardal gogledd-canol y ddinas.

ʺ Pe bai 4 neu 5 ffrwd ychwanegol yn dod yn sgîl y twf yn y boblogaeth fe fyddai hynny’n golygu derbyn tua 1100 disgybl y flwyddyn ond yn bur debyg y byddai’r cohort cyfan (Saesneg a Chymraeg) yn tyfu hefyd a’r ganran Cymraeg yn aros tua 20% o’r cyfan onibai am dwf hefyd yn y ddarpariaeth yn y ddinas fel y mae hi ar hyn o bryd. Bydd rhaid cadw golwg ar ble mae’r twf yn hawlio’r ddarpariaeth ychwanegol yma.”

-

Ysgolion dwyieithog: rhaid peidio syrthio i’r fagl

-

Mewn ymateb i sylwadau gan Leanne Wood mae RhAG wedi galw am eglurder ynglŷn â’i galwad am fwy o ysgolion ‘dwyieithog’.

Mae sawl ffigwr blaenllaw wedi gwneud datganiadau yn ddiweddar ynghylch ysgolion dwyieithog, sy’n cymylu’r drafodaeth yn ôl RhAG.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

“Camarweiniol yw sôn am ysgolion dwyieithog, mae’n fodel ieithyddol sydd ar y cyfan wedi profi’n aflwyddiannus mewn rhannau helaeth o Gymru e.e. Sir Gâr, Powys.

“Nid yw ysgolion dwyieithog yn nod realistig wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr: 1) mae’r cyraeddiadau ieithyddol yn eilradd 2) nid oes cynlluniau digonol i hyfforddi staff. Gwell cyrraedd 750,00 o siaradwyr rhugl trwy ysgolion Cymraeg na chael 500,000 rhugl a 500,000 heb sgiliau iaith digonol.

“Mae angen symud pob ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol ond ni ddaw unrhyw newid mawr o safbwynt hynny yn y 10 mlynedd nesaf, yn bennaf oherwydd diffyg gweithlu.

“Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r unig opsiwn sy’n llwyddo i roi dwy iaith i bawb. Dwyieithrwydd yw’r canlyniad a fynnwn ac nid y model o addysgu: ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig yr amodau gorau i gyflawni hynny.

“Mae hwn yn egwyddor sydd wedi’i dderbyn yn rhyngwladol gan gynnwys Llywodraeth Cymru.”

Diwedd

-
Angen i Lywodraeth Cymru ehangu eu rhaglen cyllid cyfalaf
-

MAE angen i Lywodraeth Cymru ehangu’n sylweddol eu rhaglen cyllid cyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Dyma yw galwad Rhieni dros Addysg Gymraeg, wedi i gais am wybodaeth gan y mudiad ddatgelu bod awdurdodau lleol wedi cyflwyno ceisiadau sydd dair gwaith yn uwch na’r swm sydd ar gael.

Ar 8 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn o gyllid cyfalaf, yn benodol i gefnogi'r buddsoddiad mewn addysg Gymraeg ledled Cymru.

Nod y cyllid ychwanegol hwn yw sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i fwy o ddisgyblion ledled Cymru, a thrwy hynny gyfrannu at y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd disgwyl i awdurdodau lleol feddwl yn greadigol am sut i ddefnyddio'r cyllid i wella'r ddarpariaeth Gymraeg.

Mae gwerth £103m o geisiadau wedi dod i law oddi wrth bob un o'r 22 awdurdod lleol, sy’n amrywio o £0.64m gan Ynys Môn i £14.03m gan CNPT.

Mae disgwyl penderfyniad am y ceisiadau yn yr hydref.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Dymuna RhAG longyfarch y siroedd am ymateb yn gadarnhaol i’r cyfle i ymgeisio am gyllid i gynyddu’r cyfleoedd i fwy o ddisgyblion dderbyn addysg Gymraeg.

“Mae’n debyg bod yr ymateb wedi bod mor uchel oherwydd nad oedd rhaid canfod arian cyfatebol, rhwystr sydd wedi llesteirio sawl sir rhag gweithredu cyn hyn.

“Mae’r galw yn gwbl ddiamheuol, ac yn profi bod yr ewyllys i weithredu yn bodoli os oes digon o gefnogaeth ar gael.

“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith ac mae sicrhau cyllid digonol i wireddu hynny yn gwbl allweddol.

“Galwn ar y Llywodraeth felly i gynyddu’r cyllid sydd ar gael er mwyn galluogi’r siroedd i wireddu’r holl brosiectau cyffrous sydd wedi eu cyflwyno.”

-
Llythyr at rieni Caerdydd gan RhAG - Medi 2018









-
Buddugoliaeth i Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint 19-06-2018
-

MAE RhAG wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir y Fflint heddiw i beidio â bwrw ymlaen gyda chynnig i ddiddymu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Daw hyn wedi i’r mudiad lythyru ag Arweinydd y Cyngor a holl aelodau’r cabinet i fynegi pryderon difrifol am oblygiadau unrhyw gamau o’r fath.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Mae RhAG yn croesawu’r newyddion ac yn llongyfarch cabinet Cyngor Sir y Fflint ar benderfyniad doeth a synhwyrol. Mae canlyniad heddiw yn gydnabyddiaeth y byddai wedi bod yn gam gwag i fwrw ymlaen gyda chynnig a oedd yn gwrthdaro’n glir gyda deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ac yn gwbl andwyol i’r Gymraeg ym mhob ffordd posibl.

“Nodwn bod bwriad o hyd i ystyried newidiadau ar gyfer cludiant i ddisgyblion mewn addysg ôl-16 a phwyswn ar y cyngor i gofio eu cyfrifoldeb i’r Gymraeg yn y cyswllt hwnnw.

“Mae gan Sir y Fflint le arbennig yn hanes cynnar twf addysg Gymraeg, ond mae gwaith mawr eto i’w wneud er mwyn sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o’r Sir. Galwn ar y cyngor i fynd ati’n ddiymdroi i ddangos bod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth o ddifrif iddynt.”

-

Llythyr RhAG: Cynnig i ddiddymu cludiant am ddim

-

RhAG yn galw ar Gyngor Sir y Fflint i wrthod cynnig i ddiddymu cludiant am ddim i Addysg Gymraeg 15-06-2018

-

Mae RhAG wedi galw ar Gyngor Sir y Fflint i wrthod cynigion i ddiddymu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Mewn llythyr at Arweinydd y Cyngor mae’r mudiad wedi mynegi pryderon difrifol am oblygiadau unrhyw gamau o’r fath.

Daw hyn mewn ymateb i adroddiad sy’n mynd gerbron cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth nesaf fydd yn cyflwyno cynigion i diddymu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion ôl-16 ac i ddisgyblion y mae eu rhieni’n derbyn budd-daliadau.

Amcangyfrif bod y gost o gludo disgyblion i ysgolion cyfrwng Cymraeg oddeutu £490,000 y flwyddyn gyda 720 o ddisgyblion ar hyn o bryd yn derbyn y gwasanaeth.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Mae RhAG yn galw ar y Cyngor i roi o’r neilltu unrhyw fwriad i ddileu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Siom o’r mwyaf yw bod cynigion o’r fath hyd yn oed yn cael eu hystyried, ni ddylem fod yn gorfod amlygu’r peryglon: dylent fod yn ddigon hysbys i bawb.

"Rhaid i Awdurdodau Lleol berchnogi’r cyfrifoldeb o sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch ac mor hwylus â phosib i bawb sy’n dymuno manteisio arni. Mae darparu cludiant am ddim yn allweddol i sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg, gan fod y pellteroedd y mae’n rhaid i ddisgyblion deithio gymaint yn fwy. Mae cludiant am ddim yn unioni’r cam hwnnw.

"Mae’r cynnig nid yn unig yn milwrio yn erbyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg, ond hefyd yn tanseilio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir, sy’n gosod cyfrifoldeb statudol i gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg.

"Mae’r cynnig yn andwyol i’r Gymraeg ym mhob ffordd a dylid ei dynnu yn ôl ar unwaith."

Dywedodd Nick Thomas, Cadeirydd mudiad SYFFLAG (Mudiad Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg),

"Rydym yn hynod siomedig gyda’r penderfyniad ac yn ei weld fel ergyd farwol i rai o ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir. Gall hyn gau rhai o'r ysgolion dwi'n meddwl.

"Ymddengys mai Cyngor Sir y Fflint yw’r unig sir yng Nghymru nad yw’n ystyried mai’r "ysgol addas agosaf" yw’r ysgol Gymraeg agosaf os yw rhieni’n dewis addysg Gymraeg. Pa neges y mae hynny’n ei roi i drigolion y Sir ac i weddill Cymru?

"Nid yw’r cyngor wedi gwneud llawer dros y degawdau diwethaf i hybu’r Gymraeg yn Sir y Fflint ac mae’r cynnig hwn yn atgyfnerthu’r methiant hwnnw.

"Tra bod siroedd eraill yn mynd ati i agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yma yn Sir y Fflint – sir a fu unwaith mor arloesol o ran twf addysg Gymraeg - mae’r Cyngor yn trafod cynigion o’r fath.

"Mae angen iddynt ailystyried a mynd ati’n ddiymdroi i weithredu yn fwy rhagweithiol a chadarnhaol o blaid twf addysg Gymraeg yn y Sir."

-
Gwaddol yr Eisteddfod: twf Addysg Gymraeg ym Mhowys
-

MAE ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yr wythnos hon yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym Mhowys.

Dyma yw galwad RhAG wrth bwyso ar y Cyngor i gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r Sir.

Mae arwyddion cadarnhaol eisoes ar droed gydag agor Ysgol Gynradd Y Trallwng Medi 2017 yn garreg filltir hanesyddol a llwyddiant digamsyniol Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd, yn brawf o’r galw cynyddol.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

“Mae angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o’r sir. Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni’r cam hwnnw.

“Bydd ehangu’r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri’r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd a chyfrannu at y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.

“Mawr obeithiwn y gwelwn sawl datblygiad pwysig yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Llandrindod, symud Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ar hyd y continwwm ieithyddol trwy gael gwared ar y ffrwd cyfrwng Saesneg a sefydlu ysgol uwchradd 2A yng ngogledd y sir.

“Mae’r galw a’r angen yn glir: rhaid cymryd camau pendant i sefydlu’r ddarpariaeth fydd yn bodloni hynny.

“Galwn felly ar y Cyngor i gofleidio gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer twf Addysg Gymraeg ac ar gyfer dyfodol hirdymor yr iaith Gymraeg yn y Sir.”

-
Cyngerdd i godi arian at ymgyrch ysgol Gymraeg Trefynwy 19-05-2018






-

Ysgolion cynradd Caerdydd 02-05-2018

-

Mae gwybodaeth am fynediad i ysgolion cynradd Caerdydd fis Medi nesaf ar gael sydd braidd yn siomedig unwaith eto. Mae cyfanswm o 771 plentyn wedi ceisio lle eleni o gymharu ac 847 y llynnedd a 714 wedi cael lle o gymharu â 718 y ffigwr terfynnol Hydref diwethaf. Felly am yr ail flwyddyn mae diffyg twf a nifer llai wedi cael lle o gymharu â chyfanswm o 747 yn 2016.

Mae 8 ysgol yn llawn (10 y llynedd) sef Y Wern, Treganna, Melin Gruffydd, Mynnydd Bychan, Pencae, Nant Caerau a Penypil gyda Glan Ceubal yn llawn am y tro cyntaf. Mae’r grwp yng nghanol gogledd Caerdydd sef Y Wern (13 yn methu), Melin Gruffydd (6), Mynydd Bychan (11) a Pencae (7) o dan llai o bwysau gyda 37 wedi’u gwrthod eleni yn lle’r 66 a wrthodwyd y llynedd, ond mae’n amlwg bod y galw yn yr ardal llydan hwn yn parhau yn broblem nad oes ond un ffordd o’i ddatrys sef darparu rhagor o le rhywle cyfleus sy’n golygu ar safle arall am nad oes modd ehangu’r un o’r 4 ysgol ar eu safleoedd presennol. Dyw problemau’r 4 ysgol arall ddim mor dwys: mae cynlluniau ar y gweill i ehangu Nant Caerau (5 yn methu) a Penypil (1). Mae 13 cais drosben y lle sy ar gael yn Nhreganna (o gymharu â diffyg o 24 llynedd) ond mae lle ar gael yn ysgolion Pwll Coch (11 ar gael) a Hamadryad (31) sy’n weddol agos. Mae’n werth nodi bod y galw yn y pedwar ward (Canton, Glanyrafon, Grangetown a’r Bae) nawr wedi cyrraedd 181 sy’n dechrau agosau at y cyfanswm o le sy ar gael rhwng y 3 ysgol (210) ac yn cyfiawnhau’r ymgyrch am ysgol arall yn yr ardal. Fe fyddai’n synhwyrol i dderbyn yr un plentyn a fethodd gael lle yn Ysgol Glan Ceubal yno am fod lleoedd gwag niferus yn yr Ysgol os nid yn y dosbarth.

O’r 9 ysgol sydd â lle gwag mae 4 yn bur agos at bod yn llawn: Y Creigiau (1 lle), Bro Eirwg (5), Gwaelod-y-garth (3) a’r Berllan Deg (4). Mae 2 o’r 4 arall yn ysgolion ar eu prifiant fydd yn symud i adeiladau newydd Ionawr 2019 sef Glanmorfa (34 plentyn/60 lle) a Hamadryad (29 plentyn/60 lle). Mae Penygroes (12/30) a sefydlwyd yn 2007 ond a dderbyniodd ddisgyblion am y tro cyntaf yn 2009 ddim erioed wedi derbyn mwy na hanner y plant posibl. Efallai bydd plant o ddalgylch y Wern yn ystyried ceisio yma. Coed-y-gof yw’r un olaf i’w hystyried lle mae 33 wedi ceisio’r 60 lle, ond yn aml mae’r ysgol hon yn llenwi yn ystod yr haf.

Rwy'n mawr obeithio y bydd canran sylweddol o’r 57 sydd wedi methu â chael lle ar y cynnig cyntaf yn derbyn ail ddewis nepell i ffwrdd ac yn ychwanegu o leiaf 40 at y cyfanswm i adfer twf yn y nifer sy’n dechrau addysg Gymraeg yn y ddinas eleni.

MICHAEL JONES

-

Y naw sir sy’n siomi 16-04-2018

-

Mae cwymp wedi bod yng nghanran y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg mewn naw sir yng Nghymru - dyna honiad yr ystadegydd Hywel Jones.

Mae gwefan Hywel Jones - Statiaith - yn nodi’r cwymp yng nghanrannau’r disgyblion 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg, rhwng 2012 a 2017. Dros Gymru gyfan bu twf o 22% i 22.5%, ond methwyd â chyrraedd targed y Llywodraeth o 25%.

Yr hyn sy’n bryderus yw bod gostyngiad wedi bod yn y ganran mewn naw sir yn ystod y cyfnod hwnnw, sef: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Blaenau Gwent.

Bu’r twf mwyaf cyson yn Abertawe a Chaerdydd, gyda thwf hefyd ym Mro Morgannwg, Wrecsam a Thorfaen.

Nid yw cwymp yn y ganran, fodd bynnag, bob amser yn golygu bod llai o ddisgyblion yn derbyn addysg Gymraeg ym mhob sir. Mae nifer y disgyblion 5 - 10 oed mewn ysgolion cynradd yng Nghymru wedi cynyddu’n gyson ers 2011, o ryw 195,00 i 210,437 yn Ionawr 2017 (Canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion, 2017, Llywodraeth Cymru). Yn cydredeg â hyn bu cynnydd yn nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gyrraedd 105,845 yn 2017 (104,959 yn 2016).

Mae’r twf mewn disgyblion i’w briodoli i gynnydd yn y gyfradd genedigaethau yn bennaf, a hefyd peth mewnfudo.
Yr hyn sy’n bryderus yw nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi paratoi mewn da bryd ar gyfer y twf yn y boblogaeth. Mae ysgolion Saesneg, mewn sawl man, yn gorlenwi, fel y bu’n digwydd yn gyson gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg. Canlyniad hyn yw nad oes cyflenwad o hen adeiladau ar gael ar gyfer eu trosi’n ysgolion Gymraeg.

Medd Wyn Williams, cadeirydd RhAG, “Mae’n glir bod angen cynllunio brys i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg. Dim ond un ysgol Gymraeg sydd ym Mlaenau Gwent, er enghraifft. Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith, ond does dim arwydd ar hyn o bryd bod hyn i ddigwydd.”

Ychwanegodd Wynn Williams, “Rydyn ni’n deall bod blaenoriaeth i ysgolion Cymraeg yn rownd nesaf cyllido ysgolion, ond fydd hyn ddim yn rhoi’r twf cyflym angenrheidiol. Fydd dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg ddim yn llwyddiannus chwaith, heb fod y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant.”
“Mae angen i ni beidio â thwyllo’n hunain y bydd geiriau teg y Llywodraeth am y Gymraeg - a diolch amdanynt - yn dwyn ffrwyth heb fod gweithredu radical yn digwydd ar lawr gwlad.”

-

Datblygwyr tai yn anwybyddu Addysg Gymraeg 16-04-2018

-

MAE ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu hanwybyddu gan ddatblygwyr wrth iddynt farchnata ystadau tai newydd ledled y wlad.

Dyma yw canfyddiad mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wrth feirniadu cwmnïau adeiladu sy’n rhestru ysgolion cyfrwng Saesneg ar eu gwefannau ond heb unrhyw gyfeiriad at ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae’r mudiad wedi adnabod methiant i wneud hynny gan gwmnïau Bellway, Redrow, Persimmon a Taylor Wimpey, sy’n hyrwyddo tai newydd yn RhCT, Bro Morgannwg, Torfaen a Chasnewydd ymysg ardaloedd eraill.

Meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg,
“Rydw i’n cofio ymweld â swyddfa Taylor Wimpey yn y Rhŵs i ofyn am fwy o fanylion am y datblygiad yno. Yn ôl eu taflen, does dim opsiwn ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg i deuluoedd, er gwaetha’r ffaith bod y datblygiad newydd yn nalgylch Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr. Yn ôl gwefan Redrow Homes, y dewis cyfrwng Cymraeg agosaf i deuluoedd sy’n symud i fyw i ddatblygiad yn ardal y Bontfaen yw Caerdydd! Ac nid yw Bellway ychwaith yn ymwybodol o ddalgylch ysgolion cyfrwng Cymraeg i deuluoedd sy’n symud i dai newydd yn ardal Gwenfô a Chroes Cwrlwys.”
Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
“Does dim modd cyfiawnhau difaterwch y cwmnïau hyn at y Gymraeg. Nid yw’n dderbyniol rhoi camargaff mai addysg cyfrwng Saesneg yw’r unig ddewis sydd ar gael i deuluoedd sy’n ymgartrefu yn yr ystadau tai newydd hyn, Mae’n anorfod bod canran uchel yn mewnfudo i Gymru, a mwy na thebyg, yn gwbl anymwybodol bod ganddynt ddewis arall o ran addysg eu plant. Mae’r cwmniau dan sylw yn esgeuluso eu cyfrifoldebau ac yn amlwg yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol.

“Mae hyn yn codi cwestiynau mawr o ran pa gyfarwyddyd y mae llywodraeth leol a chanol yn ei roi i ddatblygwyr o ran hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Pan gaiff addysg ei hystyried yng nghyd-destun cynllunio ystadau tai newydd, mae angen i awdurdodau lleol roi ystyriaethau ieithyddol yn ganolog yn y cynlluniau hynny. Dylent sicrhau bod datblygu trefol yn rhoi cyfle i gynyddu addysg Gymraeg.

“Rydym yn galw ar y cwmnïau hyn felly i edrych yn fanwl ar eu polisïau mewn perthynas â’r Gymraeg ac i ddechrau hynny trwy nodi ysgolion cyfrwng Cymraeg ar eu gwefannau. Wrth gynllunio at y miliwn, mae angen i’r Llywodraeth hefyd gyflwyno canllawiau sy’n caniatáu i rieni sy’n ymgartrefu yn yr ardaloedd hyn ddewis addysg Gymraeg yn hwylus.”